Bydd Wythnos Hinsawdd Cymru 2021 yn cychwyn wythnos yma (22.11.21), ac yn nodi penllanw cyfres o ddigwyddiadau COP Cymru sy'n rhoi cyfle pwysig i bobl Cymru gymryd rhan mewn sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd. 

Gan ganolbwyntio ar y daith genedlaethol i wneud y 2020au yn 'ddegawd o weithredu dros yr hinsawdd' a gosod y sylfeini ar gyfer Cymru Sero-Net, bydd yr wythnos o ddigwyddiadau rhithwir yn annog sgwrs i Gymru gyfan ar sut y gallwn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mwy o gwybodaeth: Wythnos Hinsawdd Cymru 2021.

Mae gan y diwydiant garddwriaeth ran bwysig i’w chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae llawer o dyfwyr eisoes yn arwain y ffordd ar gynaliadwyedd drwy gynhyrchu heb fawn, lleihau eu defnydd o ddŵr y prif gyflenwad, archwilio a dal a storio carbon, lleihau’r defnydd o blastigau untro, gwella iechyd y pridd, a lleihau’r defnydd o agrocemegau; sy’n annog bioamrywiaeth ac yn gwella cynefinoedd naturiol. 

Er mwyn sicrhau cynhyrchu cynaliadwy, rhaid i ddiwydiant garddwriaeth Cymru barhau i weithredu atebion arloesol i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol presennol. Dyma sut mae Tyfu Cymru yn cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r FAO a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Mae’r FAO wedi nodi pum maes sy’n allweddol i gyflawni’r Nodau Datblygu Cynaliadwy:

  • Cynyddu cynhyrchiant, cyflogaeth ac ychwanegu gwerth mewn systemau bwyd
  • Diogelu a gwella adnoddau dynol
  • Gwella bywoliaeth a meithrin twf economaidd cynhwysol
  • Gwella gwydnwch pobl, cymunedau ac ecosystemau
  • Addasu llywodraethu i'r heriau newydd (FOA, 2018)

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Gellir dod o hyd i'r rhain yma. (Llywodraeth Cymru, 2021)

Mae Prosiect Tyfu Cymru yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant penodol i'r diwydiant i adeiladu gallu'r sector garddwriaeth yng Nghymru. Er nad oes gan Tyfu Cymru, a Lantra Cymru yn ehangach, gyfrifoldeb cyfreithiol, credwn fod gennym gyfrifoldeb cymdeithasol i warantu bod ein gwaith yn cyd-fynd â SDGs yr FAO a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Y meysydd allweddol hyn, a nodwyd gan yr FAO a Llywodraeth Cymru (LlC) yw'r sylfaen ar gyfer llwyddiant prosiect Tyfu Cymru ac fe'u gweithredir trwy ein 12 thema allweddol.

Mae Tyfu Cymru yn cefnogi gwydnwch economaidd, ac yn ôl adroddiad annibynnol, mae'r cymorth hwn wedi arwain at fuddsoddiad o £2.25 am bob £1 sy’n cael ei gwario. At hynny, mae cyngor a chymorth technegol yn ysgogi'r defnydd o arfer gorau fel RhPChL. Mae'r rhaglen yn cefnogi busnesau i gynyddu cynhyrchiant drwy leihau colledion, drwy weithredu dull integredig o reoli plâu a chlefydau, a thrwy wneud hynny, diogelu a gwella bioamrywiaeth, ansawdd dŵr ac iechyd y pridd – bydd hyn yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd a chyflawni targedau carbon niwtral Llywodraeth Cymru erbyn 2050.

I ddarganfod mwy am ein gweithredoedd wrth roi cynaliadwyedd ar y blaen, gweler ein ffeithlun: Rhoi Cynaliadwyedd ar flaen y gad