Bydd y prosiect Mannau Gwyrdd Gwydn, a arweinir gan elusen y DU Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, yn treialu systemau bwyd amgen ac wedi’u hail-leoli gan ddefnyddio cymunedau a’u mannau gwyrdd fel grym ar gyfer newid ledled Cymru. Bydd y prosiect cyffrous hwn yn grymuso cymunedau ledled Cymru ac yn arwain y ffordd ar gyfer newid er lles tyfwyr, prynwyr a’r hinsawdd.
Mae gan y prosiect chew llinyn arloesol o waith a fydd yn profi’r hyn y gall pobl leol ei gyflawni gyda’i gilydd gyda’r cymorth cywir, mynediad i dir a’r rhyddid i wneud yr hyn maent yn ei wneud orau:

  1. Meithrin Tîm Datblygu Rhandiroedd Cenedlaethol – Bydd Tîm Datblygu Rhandiroedd cyntaf Cymru’n cynnull i helpu i fodloni’r galw sy’n tyfu am ddarpariaeth rhandiroedd ddigonol a gwella mynediad i’r rheiny sy’n aml ar yr ymylon rhag tyfu eu bwyd iach eu hunain.
  2.  Hybiau Bwyd Arloesol – caiff pum hwb bwyd cynaliadwy eu sefydlu mewn cymunedau ledled Cymru i ddarparu bwyd sy’n dd ai bobl, sy’n dda i’r amgylchedd ac sy’n dda i fusnesau lleol drwy hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr.
  3. Perllannau Cymunedol Cynhyrchiol - bydd deg perllan gymunedol yn treialu syniadau cynhyrchu, storio a phrosesu mentrus i ddarparu manteision economaidd gan gynnyrch newydd o Gymru.
  4. Coridorau a Mannau Gwyrddach – caiff cymunedau eu grymuso i gymryd rheolaeth o’u mannau gwyrdd cyhoeddus fel eu bod wedi’u cysylltu’n well ar gyfer natur a phobl ar draws Gwynedd.
  5. Archwilio Mynediad Cymunedol i Ffermydd a Thir – rydym yn archwilio sut gellir cael mynediad i dir gan gymunedau lleol i ddatblygu mentrau ffermio sy’n fanteisiol i bobl a’r amgylchedd.
  6. Meithrin Sgiliau Garddwriaeth a Ffermio ar gyfer y Dyfodol – mae pecyn hyfforddiant peilot yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i dyfwyr gynnal busnes ffermio garddwriaethol.

Mae’r prosiect arloesol hwn o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cyngor Gwynedd, y Gynghrair Gweithwyr Tir, Lantra, y Rhwydwaith Bwyd Agored ac Asedau a Rennir. Mae wedi derbyn arian drwy Raglen Datblygiad Gwledig - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir drwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael gwybod mwy am Fannau Gwyrdd Gwydn ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect, ewch i'n gwefan: https://www.farmgarden.org.uk/mannau-gwyrdd-gwydn.