Busnes sy'n tyfu

Mae ehangu’n gyflym a buddsoddi cyfalaf yn ddau ymadrodd sy'n nodweddu’r siwrnai y mae Ian a'i deulu wedi bod arni gyda’r gobaith o sicrhau dyfodol eu busnes amaethyddol, fferm Cresswell Barn, ar gyfer cenedlaethau i ddod. Gyda chefnogaeth Tyfu Cymru a marchnad warantedig y cwmni cynnyrch ffres, Puffin Produce, mae Ian a'i deulu wedi gweld nid yn unig eu cnydau tatws yn tyfu, ond eu busnes hefyd.

Ynghyd â’i wraig, Fiona, ei fab Patrick, a’i ferch Tessa, mae Ian wedi ehangu’r busnes tyfu tatws yn rhyfeddol ar eu fferm yn Sir Benfro, o 40 erw o datws yn 2011, i 360 erw yn 2017.

Roedd adeg pan yr ofnai Ian a’i deulu nad oedd dyfodol fel hyn iddynt ym myd amaeth. Meddai Ian, "Pan oeddem yn organig, y brif broblem oedd cludo'r cnwd o Sir Benfro i’r canolfannau pacio yn Lloegr. Bu gostyngiad yn y galw yn sgil y dirwasgiad a ni oedd y cynhyrchwyr cyntaf i gael eu gollwng. Pe na bai Puffin Produce yn pacio tatws yn Hwlffordd, dwi'n amau na fyddem ni'n tyfu tatws o gwbl "

Buddsoddiad cyfalaf

Er mwyn ehangu ar y fath gyflymdra, roedd angen buddsoddiad cyfalaf mawr gan y teulu, fel yr esbonia Ian "6 mlynedd yn ôl roedd gennym un tractor bach, heddiw mae gennym dri thractor 150rpm a'r holl beiriannau sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu tatws".

Ond nid mewn peiriannau’n unig y bu’n rhaid i’r teulu fuddsoddi gan fod cryn gostau'n ynghlwm â thyfu ar y fath raddfa, yn ogystal â chyfleusterau storio a chostau llafur hefyd. Ers gweithio gyda Puffin Produce, bwriad Ian a’i fab Patrick, sydd bellach yn weithgar yn y busnes, yw cyflawni'r galw cynyddol gan ddefnyddwyr a manwerthwyr yng Nghymru am gynnyrch ffres o Gymru. "Rwy'n credu bod pobl am brynu’n lleol" esbonia Ian, "maen nhw'n ymwybodol o filltiroedd awyr, milltiroedd bwyd ac ôl troed carbon, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig prynu'n lleol er mwyn cefnogi busnesau lleol".

Cynlluniau i ehangu

Fel erioed, mae Ian a Patrick eisoes yn cynllunio’u datblygiad nesaf; sef buddsoddi yn eu cyfleusterau storio er mwyn gallu gwneud y gorau o'u cnydau. "Mae arnom angen storfa sydd nid yn unig yn storio'r cnydau, ond hefyd yn storio’r had pan fydd yn cyrraedd fis Ionawr a Chwefror. Rydym yn bwriadu tyfu dros 400 erw’r flwyddyn nesaf, sy’n golygu cannoedd o dunelli o hadau. Mae'n anodd ei reoli mewn storfa sydd ar dymheredd naturiol, felly rydym yn gobeithio adeiladu storfa oer ar gyfer y dyfodol. "Gyda chefnogaeth Tyfu Cymru, Puffin Produce a defnyddwyr Cymru, mae'r dyfodol Cresswell Barn Farm yn edrych yn iach iawn, gyda’r mab Patrick yn gobeithio parhau â'r busnes ar gyfer y cenedlaethau i ddod.