Wrth i Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Frenhinol Cymru ddychwelyd yn 2022, rydym yn falch o fod yn cymryd yr awenau unwaith eto ar gyfer ardal yr aelodau ar gyfer Marchnad Tyfwyr Tyfu Cymru. Bydd tyfwyr yn cael cyfle i arddangos a gwerthu eu cynnyrch yn ystod y digwyddiad deuddydd. 

Rydym yn falch iawn o gynnig cyfle gwych i'n tyfwyr gymryd rhan yn y digwyddiad poblogaidd hwn. Mae'r Ganolfan Aelodau mewn lleoliad gwych yn y digwyddiad gan ei bod yn cael ei defnyddio ar gyfer y fynedfa a'r allanfa i aelodau'r cyhoedd gyda'r prif faes parcio y tu ôl i'r adeilad. Yn ôl y tyfwyr a gymerodd ran yn 2019 roedd yn benwythnos llwyddiannus o fasnachu. 
 
Oherwydd natur y cyfle hwn, bydd lleoedd yn cael eu neilltuo drwy broses ymgeisio. Byddwn yn chwilio am dyfwyr sy'n cynrychioli trawstoriad o'r diwydiant garddwriaeth sydd â'r gallu a'r adnoddau i gynnal y digwyddiad deuddydd. Os hoffech chi gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen gais hon.