Rydym yn falch iawn o gael ein cyhoeddi fel yr ail orau yng Ngwobrau Peas Please, sy'n dathlu cerrig milltir a chyflawniadau a wnaed gan addewidwyr Peas Please.

Ein categori ni oedd Gwobr Peas Please Good Society:Cydnabod ymdrechion addawol i leihau annhegwch wrth gael gafael ar lysiau, er enghraifft o ran y materion hynny sy'n arbennig o berthnasol i Peas Please megis bwyd ysgol, dechrau iach, a mentrau amaethyddol. Dyma’r rhai eraill oedd yn ein categori - Lidl, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol gyda Tesco yn ennill y wobr.

Mae Peas Please yn fenter sy'n gweithio gyda busnesau, cymdeithas sifil a llunwyr polisi ledled y DU i'w gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar lysiau trwy gael sefydliadau i wneud addewidion i dyfu, gweini neu werthu mwy o lysiau. Gallwch weld ein haddewid yma: https://foodfoundation.org.uk/wp-content/uploads/2018/02/Lantra-Pledge-for-website.pdf