Gweler y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys dyddiadau pwysig, newidiadau i reolau a chyngor amserol.

Yn gynwysedig, ar dudalen 24, mae diweddariad ar reoli plâu yn fiolegol mewn mefus, sy'n destun ymchwiliad gan Cyswllt Ffermio drwy brosiect Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru. Mae'r prosiect, a ddechreuodd yn 2020, yn cael ei gynnal dros ddau dymor tyfu mewn dau safle garddwriaeth yn ne Cymru - Fferm Springfields, Dinbych-y-pysgod a Fferm Scurlage, Abertawe.
https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-07/amaethyddiaeth-diweddariad-haf-2021.pdf