Dr William Stiles, Prifysgol Aberystwyth a Vertikit

Ffermio Fertigol (FfF) ac Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir (AAR) yw’r meysydd cynhyrchu bwyd sy’n datblygu gyflymaf, a disgwylir i’r dull hwn ddod yn rhan bwysig o gynhyrchu garddwriaethol yn y dyfodol. Mae’r egwyddor yn seiliedig ar addasu amodau amgylcheddol i greu’r amgylchedd tyfu gorau posibl ar gyfer planhigyn penodol, gan gynnig yr amodau perffaith ar gyfer twf.

Mae gan y defnydd o’r dechnoleg hon y potensial i wella cynhyrchiant bwyd mewn cyfnod pan allai newid amgylcheddol wneud cynhyrchu mewn cae yn fwyfwy heriol, a phan mae gwella diogelwch bwyd drwy ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy lleol yn dod yn fwyfwy pwysig. Yn ogystal, gall systemau tyfu rheoledig alluogi tyfwyr i gyfyngu ar effeithiau amgylcheddol gweithgareddau cynhyrchu garddwriaethol presennol, gan gynnig sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.

Mae’r sector tyfu rheoledig yn ddeinamig iawn. Amcangyfrifir mai maint y farchnad ffermio fertigol yn fyd-eang yn 2020 oedd tua USD 3 biliwn, a rhagwelir y bydd yn tyfu i tua USD 6-10 biliwn erbyn 2025 (mae amcangyfrifon yn amrywio, ond fel arfer o fewn yr ystod hon). Mae’n ddigon posibl bod y ffigur hwn yn amcangyfrif ceidwadol, gan fod systemau cynhyrchu yn cynnwys nifer o gydrannau technegol, gwerth uchel, a gall y farchnad cydrannau goleuo yn unig ymffrostio ffigurau tebyg yn barod (yn fyd-eang, amcangyfrifir mai maint y farchnad cydrannau goleuo yn 2020 oedd USD 2.3 biliwn a rhagwelir y bydd yn tyfu i USD 6 biliwn erbyn 2025). Mae amcangyfrifon ar gyfer y dyfodol y tu hwnt i’r pum mlynedd nesaf yn amrywio, ond mae rhagfynegiadau y gallai’r sector hwn fod â gwerth byd-eang o tua £100 biliwn mewn ugain mlynedd yn dod yn fwyfwy cyffredin.

Mae’r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Yn y dyfodol agos, wrth i’r galw am fwyd a diogelwch bwyd barhau i gynyddu, a’r gallu i gynhyrchu bwydydd mewn ardaloedd y dibynnir arnynt ar hyn o bryd yn dechrau pallu, yn amodol ar effaith newid hinsawdd, disgwylir i’r sector hwn sicrhau twf sylweddol a bydd yn parhau i ddenu diddordeb a buddsoddiad sylweddol gan nifer o gyfranogwyr, cyhoeddus a phreifat. 

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae datblygiad y sector hwn yn dal i fod yn broblem gan fod integreiddio’r dechnoleg hon i systemau tyfu newydd a chyfredol yn cael ei ystyried yn heriol yn dechnolegol ac yn ariannol.

Beth yw Vertikit?

Nod Vertikit yw ymateb i’r mater deuol o fynediad at dechnoleg, a throsi offer yn addas. Mae hwn yn fater i’r sector AAR ifanc ac mae’n her yn bennaf i dyfwyr bach i ganolig, i sefydliadau cyfredol sy’n ceisio ymgorffori’r dull newydd hwn, a newydd-ddyfodiaid sy’n dechrau arni. I fentrau garddwriaethol mwy, y rhai sydd â digon o fewnwelediad technegol a phŵer prynu sylweddol, nid yw cael mynediad i’r dechnoleg hon yn cynnig her fawr. Ond ym mhen arall y sbectrwm, nid yw pethau mor hawdd i fusnesau llai.

Ar hyn o bryd, mae yna wrthddywediad: mae gwybodaeth ddiddiwedd am y dechnoleg sydd ar gael, a dim un sy’n cynnig atebion uniongyrchol.  Mae llawer o leisiau sy’n cystadlu yn y diwydiant, ac mae’r opsiynau ‘troi’r allwedd’, o ffermydd cynwysyddion a thu hwnt, yn gwneud egluro strategaeth unigol tyfwr yn gymhleth. Yn yr un modd, i’r rhai sy’n dechrau ystyried y dull hwn o dyfu, yn achos yr opsiynau sydd ar gael, mae’n ddigon posibl y bydd y sgwrs yn dod i ben ar unwaith ar y cam ‘faint mae’n ei gostio?’

Ac eto, mae’r diwydiant hwn yn esblygu’n gyflym ac, yn gynyddol, mae gweithgynhyrchwyr o sectorau diwydiant tebyg yn dechrau defnyddio eu technolegau presennol ar gyfer y busnes o arddwriaeth a ddiogelir. O ganlyniad, mae digon o dechnoleg ar gael gan weithgynhyrchwyr unigol erbyn hyn ei bod yn gwbl bosibl adeiladu eich fferm eich hun. Yr her bellach yw trosi technoleg. Pa oleuadau sy’n iawn ar gyfer eich system? Faint o ddadleithio fydd ei angen? Sut mae offer monitro yn gweithio? A chwestiynau penodol, diddiwedd eraill. Er bod llu o bostiau blog ac erthyglau ‘sut i’ ar gael ar y we ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch i osod amgylchedd tyfu, mae’r rhain yn aml yn amheus o ran cywirdeb.

Mae Vertikit yn ateb yr heriau hyn drwy gynnig ateb siop un stop. Gellir ei ddefnyddio gan dyfwyr fel offeryn adeiladu fferm cyflawn, siop gyflenwi, a chanolfan wybodaeth. Mae Vertikit yn arddangos y dechnoleg orau o’r sector AAR, sy’n cael ei churadu a’i hesbonio gan wyddonwyr a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Rhan bwysig o’r dull hwn yw annibyniaeth. Mae Vertikit yn gwbl annibynnol ac nid yw’n gysylltiedig neu ynghlwm ag unrhyw wneuthurwr penodol. Mae’r offer a arddangosir yn gynhwysfawr a’i nod yw cynnig cymaint o wahanol opsiynau i dyfwyr ag y mae strategaethau cynhyrchu cnydau. Bydd y safle’n esbonio sut mae pob cydran ar gyfer fferm reoledig yn gweithio, ac yn cysylltu’r cydrannau gyda’i gilydd lle bo hynny’n ddefnyddiol. Bydd digon o wybodaeth ar gael, ar y safle a thrwy fynediad at arbenigwyr, i ganiatáu i dyfwyr wneud dewisiadau gwybodus, ond yn y pen draw, bydd y penderfyniad ar yr hyn sy’n iawn ar gyfer system tyfu benodol yn cael ei adael i’r tyfwr. Offeryn cymorth yw hwn, nid offeryn gwerthu.

Adeiladwr Fferm Vertikit:

Mae offeryn Adeiladwr Fferm Vertikit wedi’i gynllunio i helpu tyfwyr i leihau’r offer sy’n iawn ar gyfer yr amgylchedd a’r system tyfu y maent yn anelu at eu creu. Ar hyn o bryd, mae dros bymtheg cant o gynhyrchion unigol yn y system Vertikit. Mae’r Adeiladwr Fferm yn helpu tyfwyr i ddewis offer sy’n berthnasol yn seiliedig ar y math o system (aml-lefel neu sengl), y math o amgylchedd tyfu (golau naturiol neu artiffisial), a maint y gofod tyfu. Mae’r senarios gwahanol hyn yn gofyn am opsiynau offer eithaf gwahanol. Mae’r Adeiladwr Fferm yn arbed amser i dyfwyr, yn cynnig cymorth cychwynnol, ac yn caniatáu i dyfwyr ddechrau’r broses o gynllunio’r system y maent am ei hadeiladu.

Mae fersiwn gyntaf yr offeryn hwn ar gael ar hyn o bryd, ond caiff hyn ei fireinio’n ofalus er mwyn sicrhau mwy o effeithlonrwydd a chywirdeb. Y nod yw bod tyfwyr, yn y pen draw, yn mewnbynnu gwybodaeth benodol iawn yn yr offeryn hwn, o’r math o gnwd i idiosyncrasïau’r amgylchedd tyfu, a chael cynnig allbynnau penodol iawn o ran yr offer a’r dechnoleg fyddai’n gweithio orau ar gyfer eu systemau.

Canolfan Wybodaeth Vertikit:

Bydd Canolfan Wybodaeth Vertikit yn poblogi’n gyflym wrth i’r safle ddatblygu, ac mae wedi’i chynllunio i ddod yn ystorfa o wybodaeth dechnegol am wyddoniaeth AAR a ffermio fertigol. Yn ogystal, bydd yr adnodd hwn yn cynnig cymysgedd o wybodaeth, o fewnwelediad penodol iawn a droswyd i ffurf erthygl, i gyfryngau mwy cyffredinol, gan gynnwys newyddion y diwydiant (lle bo’n berthnasol) ac adolygiadau o offer, ar draws ffurfiau ysgrifenedig, fideo a sain. Diben y Ganolfan Wybodaeth yw cynnig llwyfan i dyfwyr y gellir ei defnyddio fel ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi, a chyflwyno’r wybodaeth mewn ystod eang o gyfryngau i sicrhau, waeth beth fo’r arddull dysgu a ffefrir, fod yna rywbeth i bawb.

Yn y dyfodol, gall hyn hefyd ehangu i gynnwys rhyngwyneb ar ffurf fforwm i ganiatáu rhannu syniadau rhwng cymheiriaid, sy’n elfen bwysig o gyfnewid gwybodaeth.

Crynodeb:

Nod Vertikit yw cynyddu’r nifer sy’n ymgymryd â AAR a Ffermio Fertigol yn y DU drwy gynyddu hygyrchedd at dechnoleg, gyda throsi priodol, ar lefel pris nad yw y tu hwnt i allu’r tyfwr bach i ganolig cyfartalog, neu ar lefel buddsoddi cyfalaf sy’n gydnaws ag enillion tebygol ar fuddsoddiad. Bydd hyn yn galluogi datblygu systemau tyfu lleol ac yn caniatáu i dyfwyr ymgysylltu â’r dechnoleg hon mewn ffordd fwy cyraeddadwy. 

Mewn ffordd, mae’r her uchod yn fater pwysig i’r sector AAR newydd yn fwy cyffredinol, gan mai anaml y caiff diwydiannau eu datblygu o’r brig i lawr. Fel arfer, mae sefydliadau llwyddiannus yn tyfu o’r gwaelod i fyny, gan berffeithio eu systemau nes bod yna ddull sy’n llwyddiannus ar raddfa. Gyda ffermydd mawr ar ffurf ffatrïoedd yn codi wedi’u ffurfio’n llawn, gofynnir cwestiynau ynghylch eu sefydlogrwydd yn y tymor hir: a ydynt wedi osgoi gormod o ddysgu cynyddrannol ar y ffordd i raddfa, neu a fyddant yn gallu datrys y myrdd o heriau y bydd amgylchedd tyfu ar raddfa gynhyrchu yn eu cyflwyno? Bydd gweithio gyda’r organebau mewn system o’r fath, y rhai a ddymunir a’r rhai y mae llai o groeso iddynt sy’n anochel yn dod o hyd i ffordd i mewn, yn cyflwyno llawer o heriau.

Yn Vertikit, credwn fod yn rhaid i ddyfodol technoleg ddod o ganlyniad i dyfwyr, newydd a phresennol, yn arbrofi gyda’r hyn sy’n gweithio i’w cnydau a’u hamgylchedd. Efallai y bydd person sy’n arbrofi gyda ryseitiau tyfu mewn garej yn rhywle yn datblygu’r dull gorau posibl. Neu efallai y bydd pwysau’r gwahanol ymdrechion bach yn gweld y sector hwn yn symud tuag at dyfu cnydau sy’n cael eu hystyried yn anaddas ar hyn o bryd. Pa beth bynnag fydd yn digwydd, nod Vertikit yw cefnogi’r diwydiant wrth iddo ddatblygu drwy rannu cymaint o wybodaeth a mewnwelediad â phosibl, er mwyn caniatáu i’r tyfwr bach barhau i dyfu ym mhob ystyr.