Ar ôl blwyddyn heriol iawn, ni allai’r amseru fod wedi bod yn waeth i ffermydd pwmpen yng Nghymru, gyda’r cyfnod atal byr yn digwydd dros Galan Gaeaf - gan greu’r risg y byddai stoc dros ben yn creu hunllef i gynhyrchwyr.

Gyda llawer o’r cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu hymlacio dros fisoedd yr haf, roedd gwerthiant ffrwythau ‘pigo eich hun’ (PYO) wedi bod yn gryf, gyda llawer o dyfwyr yn gweithredu yn ôl yr arfer ar eu safleoedd. Oherwydd diddordeb o’r newydd mewn cynnyrch lleol, pobl yn aros yn y DU yn hytrach na mynd dramor ar eu gwyliau, a’r cyhoedd yn ffafrio gweithgareddau awyr agored, roedd y rhagolygon hefyd yn edrych yn dda ar gyfer y tymor pigo pwmpenni.

Tra bod ffermydd PYO traddodiadol wedi bod o gwmpas llawer yn hirach, mae’r profiad o bigo pwmpenni yn gymharol newydd yn y DU. Yn ôl Google Trends, mae’r term chwilio ‘safleoedd pigo pwmpenni yn agos ataf i’ wedi treblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yng Nghymru. Mae twf o ran llwyfannau rhannu cyfryngau cymdeithasol, fel Instagram, wedi chwarae rhan flaenllaw yn y duedd hon. Gyda llawer o enwogion a dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol yn gosod y safon, mae eu dilynwyr brwd bellach yn dyheu i efelychu eu profiadau a’u ffotograffau. Yn fwy nag erioed, mae llawer ohonom yn chwilio am brofiadau newydd, ac mae ffigurau’n dangos ein bod yn parhau i wario llai o arian ar brynu pethau, a mwy ar wneud pethau - a dweud wrth y byd am ein profiadau ar-lein wedyn.

O gymharu â safleoedd dan do, mae’n weddol hawdd cynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar safleoedd pigo pwmpenni – cynhelir y gweithgareddau yn yr awyr agored ac mae ganddynt fynediad at gaeau agored mawr. Fodd bynnag, roedd yn dal yn angenrheidiol i safleoedd wneud rhai addasiadau i sicrhau diogelwch a mwynhad eu cwsmeriaid. Treuliodd safleoedd pigo pwmpenni Cymru oriau yn cynllunio ac yn cyflawni’r addasiadau angenrheidiol, ac roeddent yn barod i ddarparu amgylchedd diogel i Instagramwyr Cymru oedd yn awyddus i gyfoethogi eu cyfrifon gyda ffotograffau trawiadol o bwmpenni.

Roedd y galw yn uchel ac roedd y cyfryngau cymdeithasol yn fwrlwm o adolygiadau cadarnhaol, cwsmeriaid hapus ac argymhellion, ond yna daeth y cyhoeddiad am y cyfnod atal byr yng Nghymru.

Ar ôl cyhoeddi manylion y cyfyngiadau symud, gwnaeth tyfwyr bopeth o fewn eu gallu i addasu a gwneud y mwyaf o’u cyfleoedd i werthu cymaint o gynnyrch ag y gallent a chynnig y profiad yr oeddent wedi’i addo i’w cwsmeriaid cyn dydd Gwener 26 Hydref. Roedd hyn yn cynnwys agor yn gynnar a chau yn hwyr, hysbysu cwsmeriaid a newid slotiau a oedd wedi’u harchebu - nifer aruthrol o newidiadau munud olaf, a chlod i addasrwydd tyfwyr Cymru.

Er gwaethaf y galw, golyga gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol bod rhaid rheoli niferoedd, felly nid oedd croesawu nifer uchel o ymwelwyr yn opsiwn, tra bod rhai tyfwyr yn wynebu llawer iawn o wastraff.  

Llwyddodd Rhwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru i ddod i’r adwy a chefnogi tyfwyr Cymru i werthu eu stoc dros ben. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Rhwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru wedi bod yn hwyluso cydweithrediad rhwng tyfwyr pwmpenni Cymru trwy gynnal cyfarfodydd rhwydwaith ar-lein rheolaidd a darparu digon o gymorth cymar-i-gymar. Mae’r rhwydwaith wedi darparu hyfforddiant ar bynciau yn cynnwys prisio, creu profiadau, gwasanaeth cwsmeriaid, ystyriaethau ar y safle, gweithgareddau sy’n ychwanegu gwerth a lleihau gwastraff, yn ogystal â darparu arbenigedd garddwriaeth technegol trwy Chris Creed, Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth ADAS.

Gyda’r galw am bwmpenni hefyd yn uchel dros y ffin yn Lloegr, roedd angen mwy o bwmpenni ar ffermwyr yng Nghaint a Swydd Wilton. Llwyddodd Chris i hwyluso cyswllt rhwng tyfwyr yng Nghymru a thyfwyr yn Lloegr, a arweiniodd at dyfwyr Cymru yn gwerthu eu stoc dros ben am bris rhesymol.

Dywedodd Chris Creed, Cynghorydd Arbenigol Rhwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru: “I ddarpar dyfwyr ar safleoedd hygyrch ger ffordd dda, mae pwmpenni yn cynnig cyfleoedd go iawn i ffermydd sydd â diddordeb mewn ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae tair wythnos o waith marchnata yn gallu rhoi hwb ariannol defnyddiol i ffermydd, a gall ysbrydoli ffermydd i roi cynnig ar dyfu cnydau eraill a arweinir gan ddigwyddiadau, er enghraifft blodau’r haul a ffrwythau meddal.

“Mae Tyfu Cymru yn cynnig cymorth marchnata technegol a hwb i hyder tyfwyr i gynhyrchu cnydau, yn ogystal â chymorth wrth ffermydd eraill trwy rwydweithiau amrywiol sy’n cael eu rhedeg gan y prosiect. Yn aml, gyda hyfforddiant, daw talent fewnol i’r amlwg o ran cynhyrchu a hyrwyddo’r cnwd.”

Ers lansio'r prosiect yn 2017, mae Tyfu Cymru wedi darparu cymorth a hyfforddiant sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn meithrin gallu a chapasiti’r sector garddwriaeth yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gweithio i baratoi tyfwyr i addasu ar gyfer heriau economaidd ac amgylcheddol, ac i’w helpu nhw i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad i ddatblygu a thyfu eu busnesau. Hyd yma, mae Tyfu Cymru wedi datblygu cronfa ddata o dros 430 o fusnesau garddwriaeth yng Nghymru, wedi darparu dros 500 o ddiwrnodau hyfforddi, ac wedi ymgysylltu â dros 1,000 o weithwyr garddwriaeth proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt.

Dywedodd Rob a Rachel Saunders, tyfwyr pwmpenni sydd wedi elwa o waith y rhwydwaith: “Mae’r cyngor a’r arweiniad rydym ni wedi ei gael gan Chris a chynghorwyr Tyfu Cymru wedi bod yn amhrisiadwy i’n busnes ac roedd y gallu i rannu gwybodaeth gyda’n cymheiriaid yn y diwydiant yn ystod y cyfyngiadau symud yn hollbwysig.”

Mae Tyfu Cymru yn cael ei ddarparu drwy Lantra Cymru, sy’n cefnogi unigolion a chwmnïau yn y sector tir ac amgylcheddol i sicrhau twf personol a busnes. Mae Tyfu Cymru wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2023.