Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn darllen hen gopïau o Horticulture Week yn dyddio'n ôl i 1977, sef y flwyddyn y dechreuais ar fy ngyrfa ym maes garddwriaeth. Yn ddiddorol iawn, rydw i wedi sylwi ar nifer o fusnesau nad ydynt yn bodoli mwyach, ac eto roeddent yn bwerdai yn eu hamser. Mae enwau enwog fel Ingwerson, Waterers, a Slocock, cewri ym myd garddwriaeth ar un adeg, i gyd wedi diflannu. Er hynny, mae’n gysur nad oedd hyn yn gyffredinol oherwydd effaith amodau economaidd gwael. Rhoddodd lawer o fentrau'r gorau i fasnachu am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys newidiadau i yrfaoedd teuluol, cael eu cymryd gan gwmni arall, cael eu prynu, arallgyfeirio, a datblygu tir.  Ychydig a ddioddefodd yn sgil dirywiad economaidd yn uniongyrchol. Mae ymchwil yn dangos ein bod yn ddiwydiant sy'n parhau hyd yn oed pan na allwn ffynnu!

A dweud y gwir, yn ystod fy 44 mlynedd yn y diwydiant, mae'r diwydiant garddwriaethol wedi byw drwy 3 dirwasgiad; yr 80au cynnar, y 90au cynnar, a dirwasgiad mawr 2008/9. Ac eto, er bod llawer o ddiwydiannau'n dioddef yn wael yn ystod y dirwasgiadau hyn, ar y cyfan, mae'r diwydiant garddwriaethol wedi gwneud yn dda! Efallai fod gan y dirywiad newydd hwn a ysgogwyd gan Covid rai agweddau unigryw, ond ni ddylai daflu unrhyw beth atom nad ydym wedi'i brofi a dod drosto o'r blaen. Wrth gwrs, bydd rhai ar eu hennill a rhai eraill ar eu colled bob amser wrth i gystadleuaeth gynyddu ac i’r angen am hyblygrwydd ddod yn allweddol, ac yn anffodus mae rhai busnesau garddwriaethol wedi cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Felly, er efallai na fydd rhywun yn mentro disgrifio ein diwydiant fel diwydiant sy’n ddiogel rhag effeithiau dirwasgiad, ond gallwn fod yn hyderus ei fod wedi bod yn wydn yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad yn hanesyddol, ac nid oes rheswm dros weld hynny'n newid yn awr.

Mae sawl rheswm dros yr hyder hwn, ond efallai mai'r pwysicaf yw ein treftadaeth garddio gyfunol yn y DU, sy'n parhau i fod yn gryf, yn hanfodol ac yn rym ar gyfer lles economaidd cenedlaethol ac unigol.  Rydyn ni’n genedl o arddwyr, sydd wrth ein boddau â mannau awyr agored cyhoeddus a phersonol, ac mae hyn yn mynd yn ôl i gyfnod helwyr planhigion ar ddechrau Oes Fictoria, glasu mannau cyhoeddus, a datblygu casgliadau planhigion fel Gerddi Bodnant.  Mae defnyddio gerddi bach a stribedi o dir i fwydo teulu ac ychwanegu incwm hefyd yn dyddio’n ôl ganrifoedd, gan arwain at yr ymgyrch 'Dig for Victory' a ffurfiodd ymhellach ein cariad cyfunol at arddio a gwneud defnydd da o fannau awyr agored.  Mae garddio yn hobi rad, yn hawdd i'w ddysgu, ac yn cynnig solas, cysur, mwynhad, a boddhad o greu rhywbeth da pan fydd adegau'n anodd. Dyna pam y gall y diwydiant garddwriaethol barhau i fasnachu cystal hyd yn oed yn ystod cyfnod economaidd anodd. Mae ein hinsawdd dymherus hefyd yn helpu wrth gwrs! Mae'n llawer haws garddio yn y DU nag ydyw mewn gwlad lle mae’r tymheredd yn fwy eithafol, a chyda'n gwanwyn ar y gorwel, dylai ein gwerthiant flodeuo cyn bo hir hefyd.

Felly sut mae'r diwydiant yn ymdopi ar hyn o bryd?  Wel, mae'r newyddion yn dda! Yn ôl ystadegau'r HTA ym mis Medi 2020, mae'r cyfyngiadau symud wedi creu 3 miliwn o arddwyr newydd ac yn arwyddocaol mae bron i hanner (49%) yn arddwyr iau dan 45 oed! Mae Covid wedi llwyddo i wneud yr hyn rydyn ni wedi bod yn ceisio'i gyflawni ers blynyddoedd - denu pobl iau i arddio. Mae Covid (a Brexit) hefyd wedi creu cenhedlaeth newydd o arddwyr sy’n tyfu eu cynnyrch eu hunain, gyda llawer o ddefnyddwyr yn troi at eu gerddi gan ofni y gallai silffoedd archfarchnadoedd fod yn brin o gynnyrch ffres. Roedd y cynnydd hwn mewn garddwyr yn tyfu eu cynnyrch eu hunain eisoes yn ennill momentwm cyn y pandemig oherwydd y newid diwylliannol tuag at ddeiet cynaliadwy sy'n fwy seiliedig ar blanhigion, yn unigol ac o fewn prosiectau ysgol a chymunedol.  Nid oes ond rhaid ystyried y cynnydd mewn prosiectau cymunedol i weld bod gennym lawer mwy o ddiddordeb fel cenedl o ran o ble y daw ein bwyd a sut y caiff ei dyfu.

Yn sicr, os gall ein diwydiant oroesi ac mewn rhai achosion ffynnu yn ystod pandemig byd-eang, rhaid bod y dyfodol edrych yn ddisglair? Mae sawl ffactor macro yn cefnogi hyn a bydd yn sbarduno mwy o alw am gynnyrch garddwriaethol. Cymerwch dai er enghraifft – mae angen i ddatblygwyr y DU adeiladu 340,000 o dai y flwyddyn tan 2031 i ateb y galw a ragwelir am gartrefi. Bydd gan y cartrefi hyn erddi neu falconïau, waeth pa mor fach, a bydd angen planhigion arnyn nhw! Yn yr un modd, bydd angen tirlunio prosiectau seilwaith mawr y llywodraeth, a fydd yn creu galw pellach. Bydd hyn, ynghyd â gostyngiad mewn mewnforion o'r UE, wrth gwrs, yn cynyddu'r galw am blanhigion a dyfir yn y DU, a bydd y newid diwylliannol tuag at fwyd iachach, cynaliadwy ac atebol yn cynyddu'r galw am gynnyrch bwytadwy yn y DU.  Mae defnyddwyr yn dod yn ymwybodol bod y mange tout a dyfir yn Kenya a'i gludo i'r DU cyn waethed i'r amgylchedd ag ydyw i'r pwrs!

Felly ai dim ond newyddion da sydd i arddwriaeth ac i dyfwyr Cymru yn arbennig? Ar yr wyneb, ie. Mae gan Gymru hinsawdd ffafriol, priddoedd ffrwythlon, uchelgais, ac mae llawer o fentrau cymorth yn bodoli fel y rhai a ddarperir gan Tyfu Cymru a'r gwahanol 'Glystyrau Garddwriaeth' sy’n annog twf ac arbenigedd.  Er hynny, bydd heriau enfawr o hyd yng Nghymru a ledled y DU wrth i ni geisio manteisio ar gyfleoedd yn y farchnad yn y dyfodol. Efallai mai prinder llafur yw'r mwyaf pwysig o'r rhain. Mae gennym brinder sgiliau (y diffyg llafur sydd ar gael) ond hefyd fwlch sgiliau, lle nad oes gan y rhai sydd ar gael y sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu'n gynhyrchiol yn gyflym mewn menter arddwriaethol. Wrth gwrs, nid yw hyn yn ddim byd newydd. Dywedodd Sue Biggs, Cyfarwyddwr Cyffredinol RHS, wrth lansio’r ymgyrch 'Horticulture Matters' yn ôl yn 2014, fod "Garddwriaeth yn cyfrannu £9 biliwn i economi'r DU bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 300,000 o bobl ar draws amrywiaeth o ddisgyblaethau. Er hynny, mae 70% o fusnesau'n dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt a bod 83% yn bod hyn oherwydd y canfyddiad gwael o arddwriaeth mewn ysgolion a cholegau." Yn anffodus, dyma'r her sy'n ein hwynebu o hyd, ac os na allwn gael llafur ychwanegol mor hawdd o dramor ar ôl Brexit, rhaid i ni hyrwyddo a bod yn llysgenhadon gwell yn y diwydiant i annog mwy o bobl ifanc a lleol i ymuno â'r diwydiant, a darparu gyrfaoedd cyfoethocach i'w cadw nhw. 

Wrth gwrs yn y tymor byr efallai mai her hyd yn oed yn fwy yw'r gost gynyddol, y dryswch a’r gofid sy'n gysylltiedig ag allforio i  Iwerddon. Ni allaf ddweud os na phryd y gellir datrys hyn, dim ond bod tyfwyr Cymru mewn sefyllfa ddaearyddol eiddigeddus i fanteisio ar y farchnad fawr hon sydd ar garreg eu drws, pe bai trafodaethau masnach a gwleidyddol ddod o hyd i ffordd. Felly daliwch ati i lobïo a byddwch yn effro!

 

Hoffwn ddweud diolch i Neville Stein am ei feddyliau, ei fewnwelediadau a'i gyfraniad gwerthfawr yn yr erthygl hon.