Mae FareShare Cymru yn ailgyfeirio bwyd sydd dros ben i blatiau pobl sydd ei angen

FareShare yw’r elusen ailddosbarthu bwyd sydd wedi bod ar waith hiraf yn y DU. Cafodd ei sefydlu oherwydd y gred na ddylid gwastraffu unrhyw fwyd, yn enwedig pan fydd pobl yn llwgu. Gyda mwy nag erioed o gymunedau Cymru nawr angen bwyd, sut gall eich busnes neu’ch sefydliad chi helpu?

Rhoi Bwyd sydd Dros Ben
Beth yw’r cynnyrch bwyd gallaf eu hailddosbarthu?

Unrhyw fath o fwyd dros ben sydd mewn cyflwr da i’w ailddosbarthu – o gamgymeriadau labelu, mathau o fwyd sydd wedi dod i ben, samplau, a ffrwythau a llysiau sydd wedi pasio eu cyfnod gorau, i gynhwysion mewn swp ar gyfer gweithgynhyrchu. Mae Fare Share Cymru yn gallu storio ac ailddosbarthu pob math o fwydydd ffres, wedi’u rhewi, aer-sefydlog ac oer, gan gynnwys bwydydd sydd â brand manwerthwyr.

Ble mae’r bwyd yn mynd?

Mae bwyd dros ben o fudd i bobl a grwpiau cymunedol ledled Cymru gan gynnwys llochesi i bobl ddigartref, banciau bwyd a chlybiau brecwast ysgolion. Ar hyn o bryd mae FareShare Cymru yn cyflenwi bwyd i 164 o elusennau rheng flaen ar draws Cymru.

Pam ddylwn i ailddosbarthu’r bwyd sydd gen i dros ben?
Mae ansicrwydd bwyd ar gynnydd, yn enwedig ymysg categorïau agored i niwed, pobl ddigartref a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Drwy ailgyfeirio bwyd dros ben a fyddai fel arall yn cael ei wastraffu, gallech chi fod yn brwydro newyn yn eich cymuned leol, ac yn lleihau effaith eich sefydliad ar yr amgylchedd.

I drafod sut mae FareShare Cymru yn gallu ailddosbarthu’r bwyd sydd gennych dros ben i elusennau ar draws Cymru, cysylltwch â Chloe Rossi, Caffael Bwyd Rhanbarthol yn chloe@fareshare.cymru