Daeth dros 100 o gynrychiolwyr ynghyd o’r diwydiant garddwriaeth a siaradwyr gwych fel yr Athro Nicola Spence, Pippa Greenwood a’r Dr Ana Perez-Sierra ar gyfer y digwyddiad Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth i drafod pynciau hanfodol bwysig o ran iechyd planhigion. Roedd hwn yn gyfraniad o bwys gan Gymru yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion.

Trwy gael ei chynnal ar-lein, denodd y gynhadledd dros 100 o gyfranogwyr, nid yn unig o Gymru ond o bob rhan o’r DU a’r Byd. Mae’r mynychwyr wedi datblygu eu gwybodaeth o’r amrywiaeth o bynciau a drafodwyd, o fioddiogelwch i ddiagnosis o afiechydon, a’r teithiau rhithiol gwych o amgylch meithrinfeydd planhigion Cymru.

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Rhaglen Tyfu Cymry: ‘Mae siaradwyr y Gynhadledd a’r teithiau o amgylch meithrinfeydd, ynghyd â’r rhyngweithio bywiog rhwng y cyfranogwyr wedi dangos faint o amrywiaeth sydd yn y sector garddwriaeth yng Nghymru. Mae’n darparu’r bwyd lleol rydyn ni’n ei fwyta a phlanhigion ar gyfer ein gerddi a’n parciau, ei arbenigedd ac yn enwedig ei botensial ar gyfer rhagor o dwf a buddsoddiad.

Fe wnaeth y gynhadledd drafod y prif faterion sy’n ymwneud ag iechyd planhigion a bioddiogelwch mewn garddwriaeth fasnachol gan ganolbwyntio ar Gymru. Fe wnaeth ddisgrifio’r gwaith o atal, canfod, rheoli a lliniaru plâu ac afiechydon, gan ddarparu gwybodaeth y gall tyfwyr ei defnyddio’n uniongyrchol yn eu busnesau i’w gwneud yn gryfach.

Yn ystod y gynhadledd fe wnaeth Pippa Greenwood amlygu pwysigrwydd y diwydiant i’r economi, yn cyfrannu £24 biliwn at economi’r DU bob blwyddyn ac yn cyflogi 568,700 o bobl sy’n gyfystyr ag 1 ym mhob 62 o swyddi. Fe wnaeth Pippa hefyd amlygu’r cyfleoedd i’r diwydiant - mae garddwriaeth yn fusnes rhyngwladol ond mae cyfleoedd amlwg o ran tyfu mwy gartref. Nodwyd heriau allweddol hefyd, sy’n cynnwys risgiau bioddiogelwch, gwirio ffiniau a newidiadau i basbortau planhigion, ond hefyd y cyfleoedd arloesi yn y diwydiant, gan gynnwys gwerthu ar-lein a gwasanaethau clicio a chasglu.

Y ffordd fwyaf cost effeithiol o reoli plâu ac afiechydon yw eu hatal rhag cyrraedd yn y lle cyntaf. Fe wnaeth Nicola Spence, Prif Swyddog Iechyd Planhigion y DU, a Martin Williams, Swyddog Iechyd Planhigion Llywodraeth Cymru, ddatgelu bod clefyd coed ynn yn enghraifft sy’n debygol o gostio £15 biliwn wrth geisio adfer y difrod mae wedi’i achosi. Felly, mae cydymffurfio â deddfwriaeth y llywodraeth ac arferion da o ran bioddiogelwch yn hanfodol i’r diwydiant garddwriaeth. Rhannodd Will Ritchie o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru rai o’r arferion da hyn, gan gynnwys sut maen nhw’n rhoi planhigion newydd mewn cwarantin, yn cynnal cronfa ddata gyda phasbortau planhigion a chofnodion trefnu, ac arferion hylendid sylfaenol.

Y ffordd fwyaf cyffredin y mae plâu ac afiechydon yn lledaenu yw trwy symud planhigion o amgylch y wlad. Mae’r cynllun ardystio Plant Healthy a’r safonau rheoli wedi cael eu datblygu fel bod busnesau yn gallu dangos eu bod nhw’n cydymffurfio â’r Safon. Dyma ddatblygiad sylweddol fydd yn annog gwelliannau o ran iechyd planhigion gan arwain at ddiwydiant garddwriaeth cryfach.

Mae diagnosis yn gam hollbwysig mewn rheoli Plâu ac Afiechydon, rhoddodd y Dr Ana Perez-Siera ddarlith ddiddorol ar sut mae Forest Research yn sganio'r gorwel i chwilio am fygythiadau ac i ganfod tueddiadau o ran lledaeniad afiechydon er mwyn gallu defnyddio systemau rhybuddio cynnar.

Ymysg uchafbwyntiau’r gynhadledd oedd y teithiau rhithiol gan dyfwyr profiadol. Fe wnaeth Fferm Crug egluro sut mae eu marchnad arbenigol o dyfu planhigion o’r hedyn yn ffordd effeithlon o reoli iechyd planhigion. Yna, fe wnaeth Nick a Pat Bean o Springfield Produce rannu sut y mae cael mynediad at raglenni ymchwil wedi’u galluogi i ehangu eu cynnyrch a rheoli iechyd planhigion. Fe wnaeth taith ddiddorol gan Bransford Bebbs ddangos bod eu defnydd o ysglyfaethwr i reoli plâu ac afiechydon yn well na chemegion wrth ddod o hyd i blâu. Fe wnaethon nhw hefyd egluro sut mae eu symudiad at reolyddion biolegol lle bo hynny’n bosib, yn haws i’w weithredu, yn fwy diogel i’r staff ac yn fwy eco-gyfeillgar.

Dywedodd y Dr David Skydmore oedd yn cadeirio’r gynhadledd: “Mae Cynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth wedi denu rhestr wych o arbenigwyr i roi cyflwyniadau sydd wedi darparu gwybodaeth werthfawr iawn i’r diwydiant. Mae Tyfu Cymru wedi gwneud gwaith arbennig yn dod â’r siaradwyr hyn at ei gilydd o’r Llywodraeth, y sector garddwriaeth ac ymchwil. Mae Tyfu Cymru wedi darparu un o’r prif ddigwyddiadau ar gyfer Blwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion, gan ddangos bod Cymru ar flaen y gad o ran hyrwyddo iechyd planhigion a sector garddwriaeth cynaliadwy. Mae’r rheini a gymerodd ran wedi datblygu eu gwybodaeth o’r amrywiaeth o bynciau a drafodwyd, o fioddiogelwch i ddiagnosis o afiechydon, a’r teithiau rhithiol gwych o amgylch meithrinfeydd planhigion Cymru.”

Wrth ddod â’r gynhadledd i ben, dywedodd Sarah Gould fod Tyfu Cymru wedi ymrwymo i sefydlu fforwm dwy ffordd, gan roi a derbyn adborth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn y diwydiant. Bydd yna hefyd raglen o sesiynau trafod ar-lein i drafod iechyd planhigion, rhagor o deithiau rhithiol ac adran adnoddau benodol ar wefan y rhaglen.

I grynhoi, dangosodd y gynhadledd bod angen i ni fel diwydiant fod yn falch ein bod yn darparu bwyd a phlanhigion iach i’n gwledydd, ein bod yn gweithio tuag at y nod o fynd i’r afael â newyn a’n bod yn cyfrannu at gyfyngu cynhesu byd-eang. Ond mae angen i ni barhau i wneud hyn, ac mae hynny’n golygu bod angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach i gynnal a gwella’r safonau bwyd a phlanhigion sydd eisoes yn uchel. Rhaid hefyd sicrhau bod ein harferion yn eco-gyfeillgar, fel ein bod ni’n ddiwydiant gwyrdd yn ymarferol ac nid dim ond o ran enw. Mae gan bob un ohonom ni rôl mewn diogelu’r diwydiant a’r amgylchedd, ar gyfer yr hirdymor.

Mae sesiynau’r Gynhadledd yn dal i fod ar gael i’w gwylio: https://www.youtube.com/playlist?list=PLieEhN2EVJsyJrrKcfrFDlE-xNn9t_Vyc

Cafodd y Gynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth ei hariannu’n llwyr gan Tyfu Cymru ar y cyd â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae Tyfu Cymru wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.