Mae rhestr fer yr enwebeion wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra 2020.

Bwriad y Gwobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra yw cydnabod menter, sgiliau a brwdfrwydedd unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sector amgylcheddol a diwydiannau tir.

Mae’r busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am eu hymrwymiad rhagorol i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus drwy ymgysylltiad â phrosiect Tyfu Cymru wedi cael eu rhestru fel a ganlyn:

  • Gerddi Aberglasne
  • Derwen Garden Centre
  • Hootons Homegrown
  • Puffin Produce Ltd
  • Seiont Nurseries
  • Springfield Produce

Mae Tyfu Cymru yn gallu darparu 100% o gymorth ariannol i fusnesau garddwriaeth cymwys yng Nghymru drwy ddarparu cefnogaeth 1:1, mynediad at rwydweithiau, teithiau astudio, hyfforddiant grŵp a dulliau eraill o gynorthwyo’r datblygiad o wybodaeth, sgiliau a phrosesau diwydiannol.

Yn anffodus, ni ellir cynnal unrhyw seremoni wobrwyo ffurfiol.   Bydd yr enillydd ac ail orau’r wobr hon yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth, 9fed Chwefror.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra Cymru: 

Gerddi Aberglasne, Sir Gaerfyrddin

Gerddi Aberglasne – yn syml, un o erddi tecaf Cymru.  Paradwys adnabyddus i’r sawl sy’n plannu.  Mae’n cynnig y cyfle i edrych ar fwy na 10 acer o erddi ysblennydd.

Wedi’i lleoli yn nyffryn pictiwrésg Tywi yn Sir Gaerfyrddin, yn ei chanol, mae Gardd Glasty o Oes Elisabeth a pharapet sydd wedi cael eu hadnewyddu yn gyfan gwbl. Mae gofal a meddwl mawr wedi cael eu rhoi wrth ddatblygu gardd ar gyfer pob tymor.

Fel lleoliad hyfforddi ar gyfer colegau a grwpiau, mae’n wych gweld y buddsoddiad y mae Aberglasne wedi’i wneud ar gyfer y staff drwy ymgysylltu yn y cyfleoedd y gall Tyfu Cymru eu cynnig, gan alluogi iddyn nhw dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant ynghyd â datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra Cymru: 

Derwen Garden Centre,Y Trallwng

Busnes teuluol sy’n ymfalchïo mewn amrediad eang o blanhigion a staff gwybodus.

Mae enwebiad Derwen Garden Centre ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru yn gymeradwyaeth o’i ymrwymiad a’i ymgysylltiad parhaus gyda’r gefnogaeth y mae Tyfu Cymru yn ei chynnig, drwy hyfforddiant, cyngor a dulliau eraill o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Mae Derwen Garden Centre yn un o’r canolfannau garddio annibynnol, tecaf yn y wlad ac mae’n cael ei rhedeg gan y teulu Joseff.  Maen nhw’n gallu cyflenwi amrediad amrywiol o blanhigion (drwy’u Dingle Nurseries eu hunain) ac maen nhw’n falch o hyrwyddo cyngor gan eu staff gwybodus.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra Cymru: 

Hootons Homegrown,Ynys Môn

Mae Hootons Homegrown yn fferm deuluol ar Ynys Môn sy’n magu ei da byw ei hun, cynhyrchu ffrwythau a llysiau ac yn ymfalchïo yn ei chynnydd.

Mae’r teulu Hooton wedi datblygu eu busnes dros nifer o flynyddoedd, o fferm sy’n tyfu grawn a thatws at gasgliad heddiw o fentrau, sydd nid yn unig yn cynnwys fferm yn tyfu amrediad eang o lysiau a ffrwythau, ond hefyd da byw sy’n cyflenwi dwy o siopau fferm a chaffi.                           

Mae ymrwymiad angerddol, parhaus y teulu tuag at ddatblygu eu mentrau proffesiynol a’u gwybodaeth yn amlwg.  Mae’r cymorth ariannol o 100% gan Tyfu Cymru wedi galluogi’r teulu a’u gweithwyr dderbyn gwybodaeth a chael cymorth sydd wedi eu helpu nhw i wella eu rhagweledigaeth a’u gallu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra Cymru: 

Puffin Produce Ltd, Hwlffordd

Puffin Produce yw’r cyflenwr cynnyrch Cymreig mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflenwi amrywiaeth eang o datws a llysiau tymhorol i sawl prif fanwerthwr a chyfanwerthwr.

Mae Puffin Produce wedi bod yn tyfu ac yn cyflenwi amrediad o gynnyrch blasus a darddwyd yn foesegol ac sydd wedi’i dyfu, ei gasglu a’i becynnu gyda balchder yng Nghymru.

Heddiw, mae Puffin Produce yn cyflogi oddeutu 180 o aelodau tîm yn ei Bencadlys yn Y Llwyn Helyg.  Maen nhw’n pecynnu oddeutu 650,000 tunnell o datws o Gymru bob blwyddyn, gan gynnwys eu tatws Cynnar DDG Sir Benfro.

Nid yn unig y mae brand Blas y Tir yn gwerthu tatws Cymreig o ansawdd, ond mae hefyd yn gwerthu amrediad o lysiau tymhorol Cymreig blasus.

Mae gan Puffin Produce werthoedd cryf ynglŷn â’i bobl, ei gymuned a’i amgylchedd, er mwyn sicrhau eu bod wrth galon ei fusnes, ac adlewyrchir hyn yn ei enwebiad ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, drwy’i ymgysylltiad a’i ymrwymiad tuag at hyfforddiant garddwriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra Cymru: 

Seiont Nursery, Caernarfon           

Mae Seiont Nursersies Cyf, yn cyflenwi planhigion trwy’r post, fel Palmwydd Bresych, Rhedyn gwydn a Gorchwraidd America.  Mae’n gweithio gyda bridwyr ac asiantiaid i ddatblygu rhai o’r amrywiadau newydd gorau sydd ar gael.

Rydym yn ddigon mawr i ymdopi ac yn ddigon bach i ofalu! yw slogan Seiont Nurseries.  Wedi’i sefydlu yn 1978, mae Seiont Nurseries yn gynhyrchwr plygiau a leinars adnabyddus, sy’n cynhyrchu 850,000 o leinars a 400,000 o blygiau bob blwyddyn.  Mae’n arbenigo mewn amrywiadau newydd ac anarferol sy’n cael eu gwerthu drwy’r DU ac Ewrop.

Mae Seiont Nurseries wedi gallu addasu yn llwyddiannus i newidiadau cythryblus yn ei amgylchedd busnes yn ystod y flwyddyn bontio hon ac mae wedi parhau i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i brosesau proffesiynol gyda’r cymorth a ddarparwyd gan Tyfu Cymru.

 

Nominee for the Tyfu Cymru Training Award, part of Lantra Wales’ Land based Learner awards: 

Springfield Produce, Sir Benfro

Mae Springfield Produce (Maenorbŷr) Cyf yn tyfu mefus, cennin pedr ac asbaragws o ansawdd uchel i’w gwerthu yn ei siop fferm yn Sir Benfro yn ogystal â dwsinau o amrywiadau o fylbiau cennin pedr.

Mae Springfields yn cael ei redeg gan Nick a Pat Bean, ac maen nhw wedi bod yn tyfu mefus, cennin pedr ac asbaragws o ansawdd da yn Sir Benfro ers blynyddoedd.  Maen nhw’n gwerthu i gwsmeriaid drwy eu siop fferm ym Maenorbŷr.   O fis Awst ymlaen, mae bylbiau cennin pedr Springfields ar werth: gan gynnig amrediad eang o amrywiadau niferus i’w cwsmeriaid.

Mae Nick a Pat wedi bod yn gallu defnyddio’r cymorth ariannol 100% a gynigiwyd gan Tyfu Cymru mewn sawl ffordd er mwyn gwella eu datblygiad proffesiynol parhaus a datblygu eu mentrau yn unol â hynny, ac mae hyn wedi sicrhau enwebiad ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru.

 

Hoffem longyfarch pob un o'r enwebeion ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru.