Dydd Iau, 12 Medi 2019
Yr wythnos hon rydym yn dathlu popeth sy’n gysylltiedig â Blodau o Brydain, o flodau wedi’u torri, planhigion a dail i’r tyfwyr a’r gwerthwyr blodau annibynnol sy’n gweithio gyda hwy. Mae #WythnosBlodauPrydain (#BritishFlowersWeek) yn ei 7fed flwyddyn erbyn hyn, ar ôl cael ei sefydlu gan Farchnad New Covent Garden i hyrwyddo’r diwydiant.
Y llynedd, gwelodd miliynau o bobl yr hashnod #WythnosBlodauPrydain (#BritishFlowersWeek) ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd 12.7 miliwn o bobl ar Twitter a 2.4 miliwn ar Instagram. Cafwyd tua 6,500 o bostiadau gan 3,400 o wahanol bobl gan ddefnyddio’r hashnod. Rhoddwyd sylw yn y wasg hefyd i Wythnos Blodau Prydain yn y cyfryngau rhanbarthol, y diwydiant ac yn genedlaethol.
‘Fe wnaethom greu Wythnos Blodau Prydain i ddangos cefnogaeth i werthwyr a thyfwyr blodau annibynnol i godi ymwybyddiaeth o’r blodau o safon wych sydd ar gael ym Mhrydain ac i ysbrydoli pobl i brynu mwy o flodau lleol,’ meddai Alastair Owen, pennaeth cyfathrebu a marchnata ym marchnad New Covent Garden.
I nodi #WythnosBlodauPRydain 2019, y Co-op yw’r ail archfarchnad i lofnodi addewid Planhigion a Blodau NFU, gan ymuno ag Aldi i sicrhau triniaeth deg i bob cyflenwr, yn unol â Chod Ymarfer Cyflenwi Bwyd i dyfwyr prydain.
Dywedodd Llywydd yr NFU, Minette Batters: “Rydym yn falch iawn bod Co-op wedi llofnodi’r addewid sy’n cefnogi a diogelu tyfwyr ym Mhrydain ac yn cydnabod eu hymdrechion i gynhyrchu cynnyrch o safon uchel.
Y llynedd fe wnaethom rannu gwybodaeth am y diwydiant blodau wedi’u torri ym Mhrydain: Grown not Flown, a oedd yn canolbwyntio ar y negeseuon allweddol o adroddiad yr NFU ‘Cefnogai Blodau o Brydain’, a lansiwyd yn 2016, ac ar yr ymgyrch #GrownNotFlown. Flwyddyn yn ddiweddarach, rydym yn edrych eto ar y farchnad a beth mae’n ei olygu i dyfwyr yng Nghymru.
Roedd adroddiad Amaethyddiaeth yn y Deyrnas Unedig 2018 yn datgan bod gan y farchnad blodau wedi’u torri yn y DU werth cynhyrchiant o £121 miliwn yn 2018, o gymharu â chyfanswm gwerth o £860 miliwn (mae’r cyfanswm yn cael ei gyfrifo fel: cynhyrchiant blodau y DU yn ogystal â mewnforion blodau wedi’u tyfu minws allforion blodau sydd wedi’u torri). Canfu hefyd yn 2018 bod 14% o’r blodau a werthwyd yn y DU yn rhai a dyfwyd yn y DU (yn seiliedig ar werth)
I’r gwrthwyneb, roedd adroddiad ‘Backing British Blooms’4 yr NFU, a oedd yn amcangyfrif mai gwerth cynhyrchu blodau wedi’u torri yn y DU yn 2015 oedd £82 miliwn, sydd gyfystyr â 12% o’r blodau a werthwyd yn y DU. Mae hyn yn dangos cynnydd yn y nifer y blodau wedi’u torri o Brydain a werthwyd yn y DU, a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i fwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol blodau wedi’u mewnforio - amcangyfrifir bod tusw arferol ar Ddiwrnod San Ffolant yn teithio 4365 o filltiroedd ac mae ôl-troed carbon blodau wedi’u mewnforio tua deg gwaith yn fwy na blodau sydd wedi’u torri o’r DU. Yn yr un modd â bwyd, mae pobl yn galw fwyfwy am gynnyrch sydd wedi’i gynhyrchu’n fwy lleol.
Roedd gwerth cynhyrchiant blodau wedi’u torri yn y DU yn 2018 yn £121 miliwn o gymharu â chyfanswm gwerth o £860 miliwn.
Yn 2018 roedd 14% o’r blodau a werthwyd yn y DU wedi’u tyfu yn y DU (yn seiliedig ar werth).
I’r gwrthwyneb roedd adroddiad yr NFU yn 2016, Backing British Blooms, yn amcangyfrif mai gwerth cynhyrchiant blodau wedi’u torri yn y DU yn 2015 oedd £82 miliwn, sydd gyfystyr â 12% o’r blodau a werthwyd yn y DU.
Yn 2017, gwerth y mewnforion blodau wedi’u torri oedd £745 miliwn a chynhyrchiant y DU oedd £130 miliwn. Yn 2016, roedd y mewnforion yn werth £748 miliwn a chynhyrchiant y DU yn £93 miliwn.
Mae tua 90 y cant o flodau wedi’u torri yn cael eu mewnforio.
Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod ôl-troed carbon blodau sydd wedi’u mewnforio tua deg gwaith yn fwy na blodau sydd wedi’u torri a dyfwyd yn y DU. Mae gwerthwyr blodau yn derbyn y mwyafrif o’u refeniw drwy werthu blodau sydd wedi’u torri ac wedi’u trefnu. Disgwylir i’r elfen hon gynhyrchu 55.1% o refeniw yn 2018-19.
Mae hyn yn cynrychioli gwariant cyfartalog o £36 y person y flwyddyn (£28 ar flodau ac £8 ar blanhigion).
Yn y DU rydym yn gwario £9 ar flodau wedi’u torri am bob £1 yr ydym yn ei gwario ar blanhigion dan do5.
Felly beth mae hyn yn ei olygu i dyfwyr blodau/planhigion yn yng Nghymru. Mae’r negeseuon allweddol yr un fath...
Ystyriwch eich negeseuon marchnata – a oes gennych neges gref “Tyfwyd yng Nghymru”?
Os gellir defnyddio eich blodau/planhigion fel cynhwysion mewn cynnyrch bwyd neu ddiod, chwiliwch am gynhyrchwyr lleol a all ddefnyddio eich planhigion/blodau i wneud datganiad cryfach fyth am gynnyrch lleol.
Cadwch lygad ar ddatblygiadau newydd o ran lliwiau, amrywiaethau a dulliau tyfu er mwyn sicrhau y gallwch gynllunio ar gyfer y dyfodol, a bod ar flaen y gad.