gardening-690940_1920.jpg

This event has passed

Mae’r Ymweliad Astudio hwn yn cael ei ddarparu drwy Raglen Garddwriaeth Cyswllt Ffermio

Ymunwch â ni ar ymweliad â Claire Austin Hardy Plants i weld sut maen nhw’n gweithredu fel un o brif fusnesau garddwriaeth Cymru.

Mae’r feithrinfa yn defnyddio compost sy’n 100% di-fawn drwy bob cam tyfu ar y safle. Ar yr ymweliad hwn, gallwch weld a thrafod sut i dyfu heb fawn yn eich busnes eich hun.

Fel rhan o hyn, bydd y gŵr a gwraig, Ric a Claire, yn gallu trafod sut all symud i system ddi-fawn effeithio ar agweddau eraill o dyfu:

• Sut i fynd ati i ddyfrhau wrth ddefnyddio deunyddiau di-fawn

• Maeth – sicrhau bod trefn fwydo ddigonol yn cael ei chynnal

• Mecaneiddio – sicrhau bod peiriannau (llenwr pot, llenwr hambwrdd ac ati) yn siwtio’r deunydd a ddefnyddir

• Rheoli plâu, clefydau a chwyn

 

Please note that all attendees must be registered with Farming Connect in order to attend.If you are not already registered, please contact the Service Centre on 03456 000 813.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu broblemau ynghylch y digwyddiad neu gofrestru, cysylltwch â thîm Garddwriaeth Cyswllt Ffermio yn: Horticulture@lantra.co.uk

If you have any queries or problems regarding the event or registration, please contact the Farming Connect Horticulture team at: Horticulture@lantra.co.uk