Mae asbaragws yn gnwd lluosflwydd, felly unwaith y bydd wedi’i sefydlu, gallwch ddisgwyl blynyddoedd lawer o gnydau mewn ffenestr o tua 7 wythnos o ddiwedd Ebrill i 21 Mehefin.
Mae gan asbaragws botensial yng Nghymru fel cnwd arbenigol ar gyfer manwerthu uniongyrchol. Mae ganddo apêl eang, yn enwedig pan fo’n dymhorol, yn lleol ac yn ffres.
Ymunwch â ni ar gyfer gweminar gyn-dymhorol a fydd yn ymdrin â sefydlu, dewisiadau o chwynladdwyr (a dewisiadau eraill) a chynhyrchu, gan gynnwys organig.
Bydd Chris Creed o ADAS yn cyflwyno’r weminar hon sy’n cwmpasu manteision a’r heriau o ran tyfu’r cnwd hwn.
Asbaragws -fel cnwd arbenigol
Tuesday, 4th April 2023 4pm | Zoom
