This event has passed

Mae Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn cynnal Ymweliad Astudio i Feithrinfa Allensmore yn Swydd Henffordd.

Mae Meithrinfa Allensmore yn dyfwr cyfanwerthu o blanhigyn lluosflwydd a phlanhigion i’w plannu allan. Mae wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Swydd Henffordd. Ers dros ddeugain mlynedd mae’r feithrinfa wedi cyflenwi llawer o fanwerthwyr ledled y DU. Cyflogir hyd at 150 o staff yn ystod cyfnodau prysur ac mae’r feithrinfa yn gweithredu o gyfanswm arwynebedd cynhyrchu o 60 erw. 

Bydd Mark Taylor – y Rheolwr Gyfarwyddwr – a James Durnford – y Rheolwr Technegol – yn rhoi cipolwg i ni ar eu gweithrediad a byddwn yn dysgu sut maen nhw wedi buddsoddi mewn cyfleusterau modern, blaengar sydd wedi’u cynllunio i sicrhau cynhyrchu a dosbarthu effeithlon ac amgylcheddol ymwybodol. 

Ansawdd uchel, amrywiaeth, Arloesi, gwasanaeth, a dibynadwyedd fu’r allwedd i’w llwyddiant.