carrots .jpg

This event has passed

Mae Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn cynnal ymweliad astudio i Abbey Home Farm, Circencester.

Rheolir Abbey Home Farm gan Will a Hillary Chester-Master sydd wedi bod wrth y llyw ers cymryd yr awenau oddi wrth deulu’r Wills yn 1990. Mae’r ddau wedi ymrwymo’n llwyr i arferion organig ac maen nhw’n ymdrechu i wneud Abbey Home Farm yn lle gwirioneddol gynaliadwy, yn amgylcheddol ac yn ariannol.

Mae Abbey Home Farm yn fodel o ffermio cymysg, lleol, sy’n gwasanaethu ei gymuned gyfagos a thu hwnt, gyda’r siop fferm yn un o’r siopau un stop gorau ym Mhrydain. Fe ddechreuon nhw gyda llain lysiau fach, un erw, ac erbyn heddiw maen nhw’n cynhyrchu ffrwythau a llysiau a hyd yn oed coed tân a blodau ar 15 erw a mwy.

Ymhlith y prif feysydd a astudir yn ystod yr ymweliad fydd Lluosogi, Rheoli Plâu a Chlefydau Integredig, cynhyrchu llysiau a blodau i’w torri ac amaeth-goedwigaeth. 

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir Cinio, ond darparwch eich cludiant eich hun.

Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Bydd manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai fydd yn mynychu ar ôl cofrestru.

Cyfyngir y niferoedd i 20