nursery-gd9c6333ce_1920.jpg

This event has passed

Ers sawl blwyddyn bellach, mae canolfannau garddio wedi canolbwyntio’n fwy ar eu gwasanaethau manwerthu nac ar eu planhigfeydd. Mae heriau a chanlyniadau Brexit wedi effeithio ar argaeledd a chyflenwad planhigion, costau cynyddol mewnforion, deddfwriaeth iechyd planhigion, costau cyfleustodau a llafur sydd yn eu tro yn lleihau proffidioldeb. A allai’r heriau a’r canlyniadau hyn gynnig cyfleoedd newydd? 

Ymunwch â Tyfu Cymru am gyfle i archwilio'r opsiynau i gynyddu’ch elw a’ch gwerthiant a newid cyfeiriad drwy dyfu mwy o'ch stoc eich hun. Mae tyfu eich stoc eich hun yn rhoi sicrwydd i chi o gael stoc ar gyfer y galw newidiol a byddwch yn barod am unrhyw brinder stoc hefyd.

Bydd Neville Stein – Ymgynghorydd Busnes Garddwriaeth a cholofnydd Hort week yn cyflwyno gweithdy yn edrych ar y cyfleoedd i dyfwyr ddod yn fanwerthwyr a thyfwyr. Byddwch yn cael eich cyflwyno’r rhesymau pam y dylech fod yn dyfwr neu’n fanwerthwr ac yn astudio'r data o'r Deyrnas Unedig a Chymru i amlygu’r cyfle hwn.

Mae Neville wedi bod yn gweithio gyda Gruff Pugh o Pugh’s Nursery Caerffili drwy brosiect Tyfu Cymru i ail-bwrpasu a defnyddio safle planhigfa wedi’i hadnewyddu i’w llawn botensial sydd bellach yn cyflenwi eu dwy ganolfan arddio. O fewn y gweithdy hwn fe fyddan nhw’n amlinellu'r prosiect hyfforddi gan gynnwys nodau ac amcanion yr hyfforddiant, y dull fydd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r nodau a'r amcanion, y canlyniadau allweddol hyd yma, y canlyniadau disgwyliedig yn 2024 a'r gwersi allweddol a fydd yn cael eu dysgu o’r broses.