Feild scale crops banner .png

This event has passed

Mae rheoli chwyn mewn cnydau llysiau maes yn hanfodol er mwyn cadw cynnyrch ac ansawdd ac atal problemau wrth gynaeafu. Mae rheoli chwyn yn effeithiol hefyd yn atal hadau chwyn rhag cynyddu’n ddiangen yn y banc hadau pridd ar gyfer cnydau yn y cylchdro yn y dyfodol. Gall integreiddio opsiynau cemegol ac anghemegol helpu i atal ymwrthedd chwynladdwyr a sicrhau bod cemeg bresennol yn gallu bod yn effeithiol cyhyd â phosib.

Ymunwch â Tyfu Cymru ar gyfer y weminar hon dan arweiniad Ben Barnes a Lynn Tatnell o ADAS am sesiwn fanwl yn archwilio sut i reoli chwyn yn effeithiol wrth gynhyrchu llysiau.

Yn y weminar hon, byddwn yn ymdrin â

  • Opsiynau cemegol wrth reoli chwyn – unrhyw opsiynau newydd
  • Opsiynau eraill wrth reoli chwyn – dulliau newydd a thechnegau mwy newydd
  • Rheoli chwyn cylchdroadol