shutterstock_611702525.jpg

This event has passed

Safle organig 10 erw ger Aberteifi yng ngorllewin Cymru yw Gardd Farchnad Glebelands, lle maen nhw'n tyfu ar y safle ac yn rhedeg siop fferm, sydd ar agor i'r cyhoedd.

I dyfwyr ffrwythau, llysiau a salad, mae dyfrhau a rheoli dŵr yn uchel ar yr agenda yn dilyn haf o dywydd poeth a gwaharddiadau ar ddefnyddio pibau dyfrhau. Mae tyfwyr bellach yn gwbl ymwybodol o’r angen i gynnwys rheoli dŵr mewn cynlluniau fferm ar gyfer y dyfodol. Mae compostio'n fuddiol oherwydd ei fod yn darparu i dyfwyr gyflenwad sy’n gwella’r pridd ac mae hefyd yn storio dŵr, felly at ei gilydd mae’n lleihau costau ac yn cynorthwyo hunangynhaliaeth.

Ymunwch â ni ar ymweliad â Gardd Farchnad Glebelands yn Aberteifi i ddysgu am ddyfrhau/defnyddio dŵr a chompostio wrth fynd ar daith dywys o amgylch yr ardd gydag Adam York a Lesley Bryson, perchnogion y safle.

Bydd y daith hon yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw faterion y gallech fod yn eu hwynebu ac mae'n gyfle gwych i ofyn cwestiynau, rhannu eich straeon, a chael peth awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich menter tyfu eich hun.

Caiff yr ymweliad astudio hwn ei hariannu gan Tyfu Cymru, ac fe ddarperir cinio, ond rhaid i chi drefnu eich cludiant eich hun.

Cyfyngir y rhifau i 30 felly archebwch yn gynnar i sicrhau eich lle. Uchafswm o 2 y busnes.