collective

This event has passed

Mae llawer o gyfleoedd Garddwriaeth sy'n opsiynau realistig ar gyfer cynhyrchu refeniw ychwanegol a bydd y sesiwn hon yn archwilio rhai ohonynt. Gyda diogelwch bwyd a chadwyni cyflenwi lleol yn dod yn fwyfwy pwysig i ddefnyddwyr, mae'r galw am ffrwythau, llysiau a phlanhigion o ansawdd a dyfir yng Nghymru yn rhagori ar y cyflenwad ar hyn o bryd.

Bydd ffermwyr presennol sydd eisoes wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi cyngor ymarferol.

Rachel a Rob Saunders – Vale PYO

Llew Williams – Bontnewydd Farm Foods

Arweinir y sesiwn gan Chris Creed ADAS. Mae wedi gweithio'n uniongyrchol gyda'r ffermwyr hyn ar eu taith i'w mentrau garddwriaethol a bydd yn darparu gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr i'r diwydiant.