Ymunwch â rhwydwaith IPDM Addurnol Tyfu Cymru ar gyfer Ymweliad Astudio i David Austin Roses. Gan weithredu o safle 30 hectar (gyda 9 hectar wedi'u neilltuo ar gyfer cynhyrchu mewn cynwysyddion), maent yn cynhyrchu dros 2 filiwn o rosynnau (sy'n cynnwys cnydau a dyfir mewn cae a chnydau a dyfir mewn cynwysyddion) y flwyddyn (tyfir 650,000 ohonynt mewn cynwysyddion). Mae gostyngiad yn argaeledd ffwngladdwyr confensiynol wedi arwain at fwy o ddefnydd o Fioddiogelwyr sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am tua 25% o'r chwistrellu ar gyfer rheoli clefydau mewn cnydau a dyfir mewn cynwysyddion. Mae rheolaethau biolegol hefyd yn rhan bwysig o’r dull integredig o ddiogelu cnydau ar draws y feithrinfa gyda’r holl Gorynnod Gwiddon Brych yn cael eu rheoli gyda Phytoseiulus persimilis mewn cnydau awyr agored. Maent wedi bod yn defnyddio rheolaethau biolegol yn yr awyr agored ers tua 5 mlynedd sydd wedi arwain at well rheolaeth ar blâu.
Dan arweiniad David Talbot, Ymgynghorydd ADAS, ac yng nghwmni staff David Austin Roses, bydd y cyfarfod yn galluogi’r rhai sy’n bresennol i weld a thrafod egwyddorion ac arferion IPDM (Rheoli Plâu a Chlefydau’n Integredig) mewn lleoliad masnachol. Byddwn yn clywed sut mae David Austin Roses yn defnyddio gwahanol rywogaethau o fiolegolau ar y cyd â dulliau rheoli diwylliannol i reoli poblogaethau plâu, gan gynnwys sut y maent yn cynllunio eu dull gweithredu o ddechrau rhaglenni cynhyrchu. Byddwn yn dysgu sut mae dulliau diwylliannol, bioddiogelwyr, rheolaethau biolegol a ffwngladdwyr IPM yn atal ac yn rheoli plâu a chlefydau fel rhan o raglen IPDM gadarn.
Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n bresennol rannu profiadau o reoli plâu a chlefydau mewn ffordd gynaliadwy mewn lleoliad dysgu rhwng cymheiriaid.
Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, darperir Cinio, ond darparwch eich cludiant eich hun.
Cyfyngir y niferoedd i 20 felly archebwch yn gynnar i sicrhau lle.
Postponed - New Date TBC - Ymweliad Astudio IPDM David Austin Roses
dydd Mercher 17 Awst, 10:00yb | David Austin Roses
