Yn y weminar hon, bydd Eddy Webb o InSynch yn siarad am wneud y mwyaf o ddigwyddiadau fel sioeau a ffeiriau i helpu i adeiladu eich busnes garddwriaeth. Bydd y rhai sy’n bresennol yn dysgu’r arferion o ddefnyddio a gwneud y mwyaf o farchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol. Byddant hefyd yn derbyn gwybodaeth am sut i ymgorffori strategaeth Marchnata E-bost yn llwyddiannus i gadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid yn uniongyrchol.
Mae mynychu sioeau a ffeiriau yn cynnig cyfle gwych i arddangos eich busnes, gwerthu eich cynnyrch, rhannu eich gwybodaeth ac arbenigedd ac adeiladu eich cronfa ddata cwsmeriaid. Mae’r weminar hon wedi’i chynllunio i roi strategaethau i chi gyrraedd cynulleidfa ehangach a thyfu eich busnes. Peidiwch â’i cholli!
Marchnata Digidol – Gwneud y mwyaf o Sioeau a Ffeiriau
Dydd Mawrth Ebrill 5ed 2022 12.30pm | Zoom
