peony cytherea3.jpg

This event has passed

Ymunwch â Tyfu Cymru ar ymweliad â Claire Austin Hardy plants. Eleni, bydd yr ymweliad yn canolbwyntio ar eu profiad o werthu ar-lein.

Un o brif fusnesau garddwriaeth Cymru, maen nhw’n canolbwyntio ar blanhigion o safon a dyfir mewn meithrinfa. Mae’r feithrinfa yn defnyddio compost sy’n 100% di-fawn drwy bob cam o dyfu a gynhelir ar y safle. Maen nhw'n rhan o grŵp diwydiant Tyfu Cymru sy'n ystyried sut y gall busnesau garddwriaeth fod mor gynaliadwy â phosibl.

Byddwn yn cwrdd am 10am yn y Sarn am goffi ac yna bydd y gŵr a gwraig, Ric a Claire, yn arwain taith o amgylch y feithrinfa gan gynnwys eu sied lawn. Wedi'r daith, byddwn yn dychwelyd i'r Sarn am ginio a thrafodaeth o brif bwyntiau’r bore. Bydd Ric hefyd yn rhannu ei gynghorion y mae wedi'u cyflwyno i'w strategaeth farchnata ddigidol er mwyn gyrru gwerthiant.