shutterstock_68381686.jpg (1)

This event has passed

Gyda’r targed di-fawn wedi’i osod ar gyfer y diwydiant garddwriaethol, mae yna fwy o angen i ddeall sut i reoli dewisiadau amgen mawn a sut i luosogi a thyfu’n llwyddiannus.
Mae cyfryngau tyfu heb fawn yn seiliedig ar wahanol ddeunyddiau neu gymysgedd o ddeunyddiau, gan gynnwys coir, ffibr pren a rhisgl. Erbyn hyn, mae cynhyrchion sy’n cynnwys llai o fawn a heb fawn o gwbl ar gael gan yr holl brif weithgynhyrchwyr cyfryngau tyfu. Mae treialon wedi dangos y gall y rhan fwyaf o’r cynhyrchion hyn berfformio cystal â chyfryngau sy’n seiliedig ar fawn os cânt eu rheoli’n briodol.
Mae deall gofynion rheoli diwylliannol y cynhyrchion hyn yn allweddol i gael y gorau ohonynt.
Bydd y gweithdy hwn a gyflwynir gan ymgynghorwyr Garddwriaeth ADAS, David Talbot a Thomas James, yn cynnig cyngor ymarferol ar reoli cynhyrchion amgen mawn mewn cnydau bwytadwy ac addurnol.