Mae Henbant yn fferm deuluol a chymunedol fechan ond amrywiol rhwng y mynyddoedd a’r môr yng ngogledd-orllewin Cymru. Un o’i nodau craidd yw profi bod fferm fechan mewn ardal lai ffafriol yn gallu cynhyrchu bwyd ac elw ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol; yn gallu atafaelu carbon, a bod yn bleserus i’w rheoli.
Mae Matt a Jenny wedi bod ar eu taith paramaethu ers 2012 ac wedi plannu amrywiaeth o goed ffrwythau fel rhan o’u prosiect amaeth-goedwigaeth. Bydd coed o oedran a maint perffaith yn rhoi cyfle delfrydol i Chris Creed o ADAS ddangos technegau tocio da a phwysigrwydd cynnal arferion tocio da ar gyfer iechyd coed, ansawdd ffrwythau a rhwyddineb y cynhaeaf.
Bydd yn siarad trwy docio coed ifanc i sefydlu fframweithiau cywir a bydd hefyd yn trafod gwahanol ddulliau o docio a’r rheswm drosto.
Bydd hefyd yn sôn am blâu coed afalau, afiechydon, ac anhwylderau.
Bydd cyfle am gwestiynau ac atebion fel y gallwch fod yn hollol hyderus gyda thechnegau.
Gweithdy Tocio Paramaethu Henbant
Dydd Mercher, 16 Tachwedd , 10:00 - 15:00 | Henbant Permaculture Henbant Bach Farm Tain Lon Caernarfon LL54 5DF
