hands-g704e0755d_1920.jpg

This event has passed

Cwrs undydd ar egwyddorion iechyd y pridd sy’n cael ei gynnal gan Neils Corfield yn Henbant Permaculture.

Mae Niels Corfield yn gynghorydd, ymchwilydd, addysgwr, tyfwr a meithrinwr sydd wedi bod yn gweithio i ddarparu systemau bwyd cynaliadwy ers dros ddegawd. Mae Niels yn canolbwyntio ar systemau agroecolegol sydd ddim angen cymaint o waith cynnal a chadw ac sy’n gynhyrchiol.

Mae egwyddorion iechyd y pridd yn gweithio, pan gânt eu gweithredu’n benderfynol; maent yn dod â chanlyniadau go iawn: gwell strwythur y pridd, cnydau iachach a chynnyrch mwy cyson. Yn fwy na hynny, mae gan y tyfwyr sy’n dilyn yr egwyddorion hyn yn fwyaf trwyadl, weithrediadau mwy proffidiol heddiw. Yn y cwrs hwn, byddwch yn dysgu beth yw egwyddorion iechyd y pridd, o ble y cânt eu casglu a sut mae eu dilyn yn creu ac yn gwella strwythur y pridd.
I gael rhagor o fanylion ac i gofrestru, dilynwch y ddolen hon: