Picture2.jpg

This event has passed

Yn dilyn y Diwrnodau Hyfforddiant Iechyd y Pridd a gynhaliwyd yn Paviland Farm a Henbant Permaculture, lle cawsom ein cyflwyno i Egwyddorion Iechyd y Pridd, bydd yr ail ddiwrnod hyfforddiant hwn a gynhelir gan Penpont yn canolbwyntio ar y broses o reoli eich gwethrediad garddwriaeth gan ddefnyddio’r egwyddorion hyn. Os gwnaethoch chi fethu’r diwrnod hyfforddiant gwreiddiol, argymhellir eich bod yn gwylio’r Weminar Iechyd y Pridd ar gyfer Tyfwyr Masnachol i gael trosolwg o egwyddorion iechyd y pridd:

https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/webinars-videos/niels-corfield-webinar-soil-health-for-commercial-growers/

 

Bydd y cwrs yn cynnwys:

  • Maeth planhigion a monitro iechyd planhigion – gan gynnwys profion Brix a pH planhigion
  • Cydbwyso maetholion pridd, diwygiadau a defnyddio mwynau
  • Systemau compostio, gorchudd cnydau, adeiladu deunydd organig y pridd
  • Adolygiad o’r tymor hyd yn hyn

 

*A allai pawb sy’n bresennol ddod â’u cynllun cylchdroi cnydau cyfredol ac unrhyw ddata o brofion pridd/planhigion*