Yn dilyn y Diwrnodau Hyfforddiant Iechyd y Pridd a gynhaliwyd yn Paviland Farm a Henbant Permaculture, lle cawsom ein cyflwyno i Egwyddorion Iechyd y Pridd, bydd yr ail ddiwrnod hyfforddiant hwn a gynhelir gan Penpont yn canolbwyntio ar y broses o reoli eich gwethrediad garddwriaeth gan ddefnyddio’r egwyddorion hyn. Os gwnaethoch chi fethu’r diwrnod hyfforddiant gwreiddiol, argymhellir eich bod yn gwylio’r Weminar Iechyd y Pridd ar gyfer Tyfwyr Masnachol i gael trosolwg o egwyddorion iechyd y pridd:
Bydd y cwrs yn cynnwys:
- Maeth planhigion a monitro iechyd planhigion – gan gynnwys profion Brix a pH planhigion
- Cydbwyso maetholion pridd, diwygiadau a defnyddio mwynau
- Systemau compostio, gorchudd cnydau, adeiladu deunydd organig y pridd
- Adolygiad o’r tymor hyd yn hyn
*A allai pawb sy’n bresennol ddod â’u cynllun cylchdroi cnydau cyfredol ac unrhyw ddata o brofion pridd/planhigion*
Diwrnod Hyfforddiant Iechyd y Pridd gyda Niels Corfield
9:00yb to 5:00yp | Tŷ Penpont, Aberhonddu, LD3 8EU
