eucalyptus-gb98bee665_1920.jpg

This event has passed

A ydych chi’n chwilio am gyfle Garddwriaethol? – ystyriwch dyfu deiliant. Ymunwch â Tyfu Cymru am ymweliad astudio â Hardy Eucalyptus, Meithrinfa Grafton. Bydd yr ymweliad yn benodol ar gyfer tyfwyr a ffermwyr sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am Dorri Deiliant y Goeden Ewcalyptws.

Mae hon yn feithrinfa arobryn yng nghefn gwlad Swydd Gaerwrangon sydd o dan reolaeth teulu. Maen nhw’n tyfu, ymchwilio ac yn arbenigo mewn 65 a mwy o wahanol rywogaethau o goed Ewcalyptws, y mae dros 30 ohonyn nhw’n ddigon caled i’w tyfu yn y rhan fwyaf o’r DU. Mae 20 rhywogaeth wedyn yn hapus ar arfordiroedd y de a’r gorllewin a lleoliadau mwynach, a thyfir hefyd rywogaethau nad ydyn nhw mor galed.

Daw eu hadau o darddiadau hysbys yn rhannau oeraf y cyferbwyntiau. Mae’r holl stoc iau yn cael eu haerdocio o’r cychwyn cyntaf ac mae coed aeddfed yn cael eu tyfu yn y system cynhwysydd ‘Air-pot’ a ddyfeisiwyd yn Awstralia. Mae hyn yn golygu bod gan y coed system wraidd fywiog, reiddiol sy’n arwain at goeden ddiogel a sefydlog.

Byddwn hefyd yn sôn am y defnydd o goed Ewcalyptws mewn system silvopasture a’i manteision i helpu i ddraenio tir ymylol na ellir ei ddefnyddio. Bydd tyfu coed Ewcalyptws fel cnwd ar gyfer coed tân – logiau, pren neu danwydd ar gyfer biomas – hefyd yn cael ei drafod.

Amserlen

  • Te/Coffi/Diodydd Meddal wrth gyrraedd (10:00 am)
  • Taith o’r Feithrinfa
  • Gweld ein plot treial ar gyfer cyflwyniad a thrafodaeth ar Dorri Deiliant Ewcalyptws.
  • Y seiswn Scratch & Sniff fythol-boblogaidd – cewch weld rhywogaethau gwahanol i brofi’r amrywiaeth o ran arogl, lliw a siâp y deiliant.
  • Sesiwn Holi ac Ateb
  • 13:00 Cwrdd yn ….  am ginio, a fydd yn cael ei ddarparu.

Dewch â siaced dal dŵr ac ymbarél. Gwisgwch esgidiau cadarn. Meithrinfa cynhyrchu yw hon gyda llawr garw.

Bydd llyfr Hardy Eucalyptus, Fantastic Foliage and How to Farm It, ar gael i’w brynu am bris masnach o £18.00

Bydd coed ar gael i’w prynu am brisiau gostyngol, i’r rhai sydd â diddordeb mewn mynd â rhai adref gyda nhw.