digital-marketing-1725340_1920.jpg

This event has passed

Tydi llawer o bobl sydd â mynediad at eu cyfrif Google Analytics ddim yn manteisio’n llawn ar yr adroddiadau sydd ar gael, heb sôn am ddefnyddio’r wybodaeth i ddylanwadu ar eu gweithgareddau marchnata. Bydd y sesiwn hon yn dangos i’r mynychwyr sut i ddehongli llawer o’r adroddiadau ar Google Analytics. Hefyd, byddwn yn manylu ar y prif feysydd a all helpu i fesur llwyddiant eich Gweithgareddau Marchnata ar y Rhyngrwyd a’ch helpu chi i ddefnyddio’r wybodaeth i fireinio eich dull.