study trip banner .png

Mae Rhwydwaith Llysiau Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn cynnal ymweliad astudio â Barfoots. Mae hwn yn gyfle unigryw i ymweld â fferm cenhedlaeth gyntaf hynod lwyddiannus, sydd wedi dod yn gynhyrchydd garddwriaethol blaenllaw. Mae Barfoots hefyd yn arweinwyr ym maes cynaliadwyedd ac arloesi, ac yn defnyddio chwynwyr robotig ar hyn o bryd.

Mae Barfoots yn dyfwr garddwriaethol mawr yn y DU, sy'n cyflenwi cynnyrch i lawer o archfarchnadoedd y DU a'r sector gwasanaethau bwyd. Tyfir asbaragws, pwmpenni, india-corn, ffa a bresych ar safleoedd ar draws de Lloegr o Southampton i Chichester ac Ynys Wyth. Arweinir y daith astudio gan Chris Creed ac Angela Huckle a fydd yn ymuno â Rheolwr Fferm Barfoots, Neil Cairns, a bydd yn canolbwyntio ar bob agwedd ar gynhyrchu llysiau maes gan gynnwys rheoli maeth, rheoli plâu a chlefydau a thyfu ar gyfer cynnyrch o'r ansawdd gorau posibl.

Yn Sefter/Easton yn Sussex cawn weld:

- Cynaeafu india-corn a thrafod agronomeg
- Cynaeafu a phlannu tenderstem, trafod rheoli ac agronomeg
- Pwmpenni

Yn Broadlands cawn weld:

- Asbaragws a thrafod rheoli rhedyn/agronomeg
- Pwmpenni
- Ffa bychain (dwarf beans)
- Cnydau bresych (Brassicas)

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir cinio barbeciw.

I fynegi diddordeb mewn mynychu'r ymweliad astudio, anfonwch e-bost at tyfucymru@lantra.co.uk