fir-tree-3923894_960_720 (1).jpg

This event has passed

Mae Rhwydwaith Coed Nadolig Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn cynnal ymweliad astudio â Gower Fresh Christmas Trees. Mae Gower Fresh Christmas Trees yn gartref i bumed genhedlaeth teulu Morgan erbyn hyn ac yn cael ei redeg gan Robert Morgan. Ar un adeg, roedd Gwer Fresh Christmas Trees yn fferm nodweddiadol gyda 500 o ddefaid bridio a 200 o wartheg. Oherwydd clwy'r traed a'r genau ac enillion gwael yn y farchnad da byw, gwelodd Robert gyfle am goed Nadolig safonol am bris synhwyrol. Plannwyd eu coed cyntaf yn 1997. Maent bellach yn un o dyfwyr coed Nadolig mwyaf Cymru ac mae eu gwaith caled a'u hymroddiad wedi arwain at ennill gwobrau fel Tyfwr y flwyddyn Cymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain yn 2017.

Janet Allen o ADAS fydd yn arwain yr ymweliad a dyma fydd y pynciau trafod:

• Paratoi ar gyfer cynaeafu coed Nadolig
• Defnyddio chwynladdwyr yn yr hydref/dechrau'r gaeaf
• Chwilio am a rheoli plâu yn yr hydref
• Nodi problemau clefydau
• Paratoi ar gyfer plannu yn ystod gaeaf 2021 a diwedd y gaeaf/dechrau gwanwyn 2022
• A yw rheoli plâu a chlefydau yn integredig yn opsiwn ar gyfer coed Nadolig?
• Amseriad dadansoddi pridd a nodwyddau a dulliau samplu ar gyfer y canlyniadau mwyaf dibynadwy

Cwrdd yn Gower Fresh Christmas Trees 10:30 am
Y Trip Astudio i ddod i ben tua 3.30pm

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir Cinio, ond darparwch eich cludiant eich hun.
Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Bydd manylion llawn yn cael eu hanfon at y rhai fydd yn mynychu ar ôl cofrestru.
Cyfyngir y niferoedd i 20