Mae Pheasant Acre Plants yn fusnes teuluol sefydledig sy'n gweithredu o safle planhigfa ger Pen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru. Maen nhw’n arbenigo mewn cyflenwi cormau blodau’r cleddyf (Gladioli), cloron dahlia, bylbiau’r gwanwyn a’r hydref a phlygiau a phlanhigion ar gyfer pob tymor ac maen nhw wedi derbyn nifer o Wobrau Medal Aur.
Bydd Rob Evans – y perchennog yn rhoi taith o amgylch y blanhigfa i ni gan rannu ei wybodaeth helaeth am dahlias a blodau’r cleddyf yn arbennig. Bydd yn siarad â ni am ei brofiadau o ddangos yn yr RHS a sioeau blodau rhanbarthol gan gynnwys sioe flodau fawreddog RHS Chelsea.
Mae rhan o fusnes Rob yw tyfu dahlias a blodau’r cleddyf fel blodau wedi'u torri. Mae ganddo gae blodau newydd a bydd yn rhoi taith unigryw i ni o’i hamgylch: bydd yn cyflenwi siop fferm leol gyda thuswau hardd o flodau tymhorol.
Ariennir yr ymweliad Astudio hwn gan Tyfu Cymru a darperir brecinio yn siop a chegin Forage Farm.
Bydd angen i'r mynychwyr ddarparu eu cludiant eu hunain.
Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Anfonir y manylion llawn at y mynychwyr ar ôl iddyn nhw gofrestru.
Cyfarfod yn siop Forage Farm am 10.00am
Taith Astudio’r Rhwydwaith Blodau
Dydd Mercher 8 Medi, 10am-2pm |
