email.PNG

This event has passed

Bydd Eddy o InSynch yn arwain y gweithdy hwn gan edrych ar sut i ymgorffori strategaeth farchnata e-bost i'ch busnes garddwriaethol yn llwyddiannus.

Bydd yn egluro'n fyr rai o'r materion cyfreithiol y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt ac yna'n arwain cynrychiolwyr drwy ddefnydd Mailchimp. Bydd yn egluro sut mae cysylltiadau'n cael eu uwchlwytho, ffurflenni cofrestru’n cael eu creu, ac ymlaen i greu ymgyrch syml a chynnwys awgrymiadau i wneud eich negeseuon e-bost yn fwy llwyddiannus. Mae hwn yn ddigwyddiad angenrheidiol i unrhyw un sy'n ystyried dechrau marchnata e-bost ar gyfer eu busnes.

Drwy hyfforddiant blaenorol ar y pwnc hwn a’i darparwyd gan Tyfu Cymru, dyma ddyfyniad gan Ric Kenwood (Cyfarwyddwr/Cydberchennog Claire Austin Hardy Plants) ar sut y gwnaeth y wybodaeth a enillodd ei rymuso i gael effaith gadarnhaol ar ei fusnes:

'Rhoddodd Insynch wybodaeth a mewnwelediad i mi o strategaethau marchnata e-bost nad oeddwn wedi'u defnyddio o'r blaen. O ganlyniad i gamau a weithredwyd ar ôl gweithio gydag Eddy, gallaf briodoli 480 o archebion yn uniongyrchol i ymgyrchoedd a gynhaliwyd yn ystod y pum wythnos a hanner ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at incwm sylweddol mewn cyfnod sy'n draddodiadol yn un o adegau tawelaf y flwyddyn i ni. Mae wedi helpu rhoi hwb i'n hincwm mewn modd cost-effeithiol a phroffidiol yn ystod yr amseroedd anodd y mae Covid wedi achosi i lawer o fusnesau. Diolch Eddy a Thîm InSynch’