Pumpkin 16042021.png

This event has passed

Mae'r cyfarfod hwn wedi'i anelu at dyfwyr sefydledig sy'n rhan o Rwydwaith Pwmpen Tyfu Cymru neu a hoffai ymuno ag ef

Bydd Chris Creed (Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth, ADAS) yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol a fydd yn cynorthwyo tyfwyr i baratoi ar gyfer cnydio llwyddiannus.
Bydd yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Paratoi ar gyfer hau a phlannu
  • Rhaglen cyn-blannu hen welyau hadau
  • Diweddariadau chwynladdwr
  • Dyddiadau drilio
  • Bydd hefyd yn ymdrin â rhaglennu blodau haul gan fod y cnwd hwn yn opsiwn diddorol i dyfu ochr yn ochr â phwmpenni i wella eich busnesau twristiaeth fferm.

Bydd cyfle i dyfwyr gyfrannu er mwyn dysgu o brofiadau blaenorol a gwella sefydlu y cnydau hyn.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn Saesneg. Os byddai'n well gennych gael mynediad i'r sesiwn hon yn Gymraeg, rhowch wybod i ni trwy e-bostio: tyfucymru@lantra.co.uk