K.Hall.jpg

This event has passed

Mae Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn cynnal ymweliad astudio â Keynon Hall, Warrington. Dyma gyfle gwych i ymweld â fferm Kenyon Hall, fferm deuluol sydd wedi'i ffermio gan yr un teulu ers cyn 1500. Fel mwyafrif y ffermydd yn y DU, roedd Kenyon Hall yn 'Fferm Gymysg' yn tyfu gwenith, haidd, glaswellt a thatws ac yn gofalu am wartheg godro, gwartheg bîff, moch ac ieir. Y dyddiau hyn mae'r fferm yn ymwneud yn helaeth â thwristiaeth fferm, ac mae ganddi siop fferm a chaffi. Yn 1978 fe blannon nhw'r 2 erw gyntaf o fefus ac mae'r PYO a'r siop fferm wedi tyfu o hynny. Mae'r fferm bellach yn fwy na 500 erw. Maent wedi ychwanegu at yr ystod o gnydau flwyddyn ar ôl blwyddyn drwy gyflwyno eirin Mair, cyrens, mafon, asbaragws, a thyfu dros 200 o fathau o berlysiau a dyma’r hyn roddodd gychwyn i’r ardal gwerthu planhigion; mae ganddyn nhw bellach ffrwythau meddal mewn hydroponeg gan gynnwys twneli Sbaen a byrddau awyr agored. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw hefyd wedi ychwanegu pwmpenni a blodau’r haul a drysfa india-corn y caiff nifer fawr o gobiau eu gwerthu ohoni. Mae gan y fferm gryn dipyn o arbenigedd ar systemau archebu a chyfryngau cymdeithasol ac addysg i blant.

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir Cinio, ond bydd angen i'r mynychwyr ddarparu eu cludiant eu hunain.

Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Anfonir y manylion llawn at y mynychwyr ar ôl iddyn nhw gofrestru.

Cyfyngir y niferoedd i 20