Veg.jpg

This event has passed

Mae cynlluniau bocsys llysiau confensiynol ac organig wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a chyrhaeddodd gwerthiant £100 miliwn y llynedd.
Bydd Ruth Evans, cyfrifydd sy'n eistedd ar fwrdd Cae Tan yn arwain y sesiwn. Bydd yn amlinellu gwahanol fodelau o gynlluniau bocsys a'r potensial ar gyfer incwm.

Bydd yn ymchwilio i'r treuliau a'r costau o sefydlu a rhedeg cynllun bocsys.

Drwy reoli'r gadwyn gyflenwi eich hun, rydych yn dal gafael ar yr elw hwnnw a fyddai fel arfer yn mynd i'r cyfanwerthwr neu'r prynwr masnachol.

Unwaith y byddwch wedi sefydlu sylfaen sefydlog o gwsmeriaid, mae potensial i deilwra eich rhaglen cnydau i lenwi eich bocsys llysiau, yn hytrach na thyfu'n ddamcaniaethol ar gyfer siopau manwerthu uniongyrchol eraill. Yn yr un modd, gallai incwm a llif arian fod yn fwy rhagweladwy.

Bydd y sesiwn yn gorffen gyda sesiwn holi ac ateb, ran roi’r cyfle i chi ofyn eich cwestiynau ariannol yn ymwneud â rhedeg eich cynlluniau bocsys eich hun.