dahlia-2644738_1280.jpg

This event has passed

Yn y weminar hon bydd Robert Evans o Pheasant Acre Plants, Arbenigwr arobryn ar Dahlias, yn rhannu ei wybodaeth am y planhigion gwych yma.

Bydd Rob yn siarad am fanteision ac anfanteision dechrau dahlias o gloron a thoriadau, a’r technegau i wneud hyn yn llwyddiannus, ac yn egluro sut i gael y canlyniadau gorau.

Bydd yn cynnig Awgrymiadau a chynghorion ar gyfer tyfu drwy'r tymor gan edrych ar yr amodau gorau iddynt dyfu, cyfundrefnau bwydo i sicrhau'r blodeuo gorau posibl, y ffordd orau o gefnogi a’r gofalu sydd ei angen yn ystod y gaeaf.