ladybird-gd90ba6eb0_1920.jpg (1)

This event has passed

Yr olaf o blith sesiynau rhwydwaith IPDM Tyfu Cymru eleni ar gyfer grwpiau cnydau bwytadwy ac addurnol. Cyfle i adolygu eich cynnydd gyda’r dull integredig o reoli plâu a chlefydau, a chlywed gan y grŵp am lwyddiannau a heriau.

Wrth i'r tymor tyfu ddirwyn i ben, mae hyn yn rhoi cyfle i asesu cynnwys eich storfa o blaladdwyr. Bydd David Talbot yn siarad am unrhyw ofynion storio penodol a sut i gael gwared ar blaladdwyr nad ydych yn eu defnyddio mwyach.

Bydd y sesiwn yn dod i ben gyda chynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2022, gan ganolbwyntio ar reolaethau biolegol ar gyfer plâu cyffredin, gan roi amlinelliad clir o ba fisoedd y dylai cyflwyniadau ddechrau ar gyfer y cyfraddau llwyddiant gorau posibl.