potato-1628500_1920.jpg

This event has passed

Nod y digwyddiad hwn yw helpu tyfwyr i ddeall sut y gallant fesur iechyd pridd a beth y gallant ei wneud i warchod a gwella iechyd y pridd ar eu fferm. Bydd y cyfarfod yn trafod:

  • Beth yw ‘iechyd pridd’?
  • Sut mae ei fesur? Gan gynnwys opsiynau ar gyfer mesur yn y cae ac yn y labordy.
  • Sut mae cynnal a gwella iechyd pridd? Gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd deunydd organig mewn pridd a strwythur da.

Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar yr heriau penodol y mae cynhyrchu llysiau yn eu cyflwyno i iechyd pridd, fel difrod i strwythur y pridd a all ddigwydd lle caiff cnydau eu medi mewn tywydd anffafriol.

Cyflwynir yr hyfforddiant hwn gan Dr Lizzie Sagoo o ADAS. Mae Dr Lizzie Sagoo yn Brif Wyddonydd Pridd yn ADAS ac yn gyd-awdur llawlyfr AHDB, Soil Management for Horticulture.