Nod y digwyddiad hwn yw helpu tyfwyr i ddeall sut y gallant fesur iechyd pridd a beth y gallant ei wneud i warchod a gwella iechyd y pridd ar eu fferm. Bydd y cyfarfod yn trafod:
- Beth yw ‘iechyd pridd’?
- Sut mae ei fesur? Gan gynnwys opsiynau ar gyfer mesur yn y cae ac yn y labordy.
- Sut mae cynnal a gwella iechyd pridd? Gan ganolbwyntio ar bwysigrwydd deunydd organig mewn pridd a strwythur da.
Bydd y cyfarfod yn canolbwyntio ar yr heriau penodol y mae cynhyrchu llysiau yn eu cyflwyno i iechyd pridd, fel difrod i strwythur y pridd a all ddigwydd lle caiff cnydau eu medi mewn tywydd anffafriol.
Cyflwynir yr hyfforddiant hwn gan Dr Lizzie Sagoo o ADAS. Mae Dr Lizzie Sagoo yn Brif Wyddonydd Pridd yn ADAS ac yn gyd-awdur llawlyfr AHDB, Soil Management for Horticulture.
Iechyd Pridd i Dyfwyr Llysiau mewn Caeau
Dydd Mercher 24 Chwefror 2021, 4pm | Zoom
