berries-3504149_960_720.jpg

This event has passed

Mae'r cyfarfod hwn wedi'i anelu at dyfwyr sefydledig sy'n rhan o Rwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru neu a hoffai ymuno â’r rhwydwaith honno.

Bydd Chris Creed (Uwch Ymgynghorydd Garddwriaeth, ADAS) yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol fydd yn edrych ar sut mae Tymor 2021 wedi mynd. Bydd yn siarad am sut i ganolbwyntio ar gyflenwi a rheoli cnydau gyda dull wedi'i dargedu a lle mae cnydau sydd wedi'u gaeafu yn ffitio i mewn ynghyd ag unrhyw broblemau cynhyrchu. Gyda nifer yr ymwelwyr â safleoedd pigo eich ffrwythau eich hunain (PYO) yn cynyddu’n sylweddol, bydd hwn yn gyfle da i adolygu cyn cynllunio ar gyfer tymor y flwyddyn nesaf. Mae nawr yn amser da i gael trefn ar archebion planhigion. Yn y gweithdy hwn bydd cyfle hefyd i adolygu arferion trin plâu a chlefydau, trafod llwyddiannau a methiannau IPDM a gweld sut y gallech barhau i ddefnyddio'r dull gweithredu hwn.

Cynhelir y sesiwn hon yn Saesneg. Pe byddai'n well gennych gyrchu'r sesiwn hon yn Gymraeg, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, trwy e-bostio: tyfycymru@lantra.co.uk