ecology-6513805_960_720 (1).jpg

This event has passed

Bydd yr ail mewn cyfres o drafodaethau rhwng panel o arbenigwyr yn cael ei chynnal yn yr hydref fel rhan o Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth ar gyfer perchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr busnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru.

Rydym wrth ein boddau y bydd 3 arweinydd busnes yn ymuno â ni i rannu eu mewnwelediadau  ar arloesedd a chynaliadwyedd mewn trafodaeth rhyngweithiol awr o hyd rhwng panelwyr. 

Ymunwch â ni ar 7 Medi 2021 am 10am ar gyfer ein gweminar am ddim i drafod yr heriau a’r cyfleoedd cyfredol. 

Rydym wrth ein boddau y bydd 3 arweinydd busnes yn ymuno â ni i rannu eu mewnwelediadau  ar arloesedd a chynaliadwyedd mewn trafodaeth rhyngweithiol awr o hyd rhwng panelwyr. 

  • Adam Dixon, Cyd-sylfaenydd Phytoponics. Ers 2016 mae wedi codi dros £1m mewn buddsoddiadau ar gyfer technoleg hydroponeg amaethu dŵr dwfn, ac erbyn hyn mae ganddo brosiectau ar y gweill gyda thyfwyr mawr a phartneriaid yn y sector cynnyrch ffres ledled y byd.
  • Jerry Joseph-Meade o The Derwen. Yn un o'r canolfannau garddio annibynnol gorau yn y wlad, mae Jerry yn rhan o deulu Joseph sy'n berchen ar feithrinfeydd Derwen a Dingle ac yn eu rhedeg.
  • Owen Rosser, Cyfarwyddwr Pembrokeshire Chilli Farm. Mae'r cwmni wedi tyfu'n gyflym ers dechrau yn 2017 ac mae'n cynhyrchu dros 2.5 tunnell o tsilis bob blwyddyn y maent yn eu prosesu i'w hystod o sawsiau yn ogystal â chyflenwi cynhyrchwyr eraill.

 

Hwyluswyd gan: Iain Cox o Ecostudio

Mae Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru.

  • Dysgwch gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol drwy gyfres o sesiynau panel a dosbarthiadau meistr bychain
  • Cewch fynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.