Bio.PNG

This event has passed

Ydych chi’n gwneud y defnydd gorau o’r bioamddiffynwyr sydd ar gael i gyfrannu at reoli plâu a chlefydau yn eich busnes?

Mae Tyfu Cymru yn lansio Rhwydwaith Cefnogi Bioamddiffynwyr. Mae’r sesiwn gyntaf hon yn croesawu tyfwyr masnachol i ymuno â David Talbot wrth iddo egluro sut i gael y canlyniadau gorau gyda’r mathau hyn o gynhyrchion amddiffyn cnydau yn ystod y tymor tyfu hwn.

Pan fydd bioamddiffynwyr yn cael eu defnyddio’n iawn o fewn system IPM, gallant helpu i greu rhaglenni amddiffyn cnydau effeithiol a chynaliadwy. Os nad ydynt yn cael eu defnyddio’n iawn, gall y canlyniadau gyda bioamddiffynwyr fod yn siomedig.

Bydd y rhwydwaith cefnogi hwn yn darparu hyfforddiant ar ganfod plâu, clefydau a phryfed buddiol, a bydd yn helpu tyfwyr i bennu’r pwysau presennol a’r angen i’w hatal a’u rheoli.