salad-2482457_960_720.jpg

This event has passed

Mae cylchdroi cnydau yn helpu i leihau'r problemau o ran plâu a chlefydau sy'n benodol i gnydau ac mae'n trefnu grwpiau o gnydau yn ôl eu hanghenion tyfu. Yn ogystal, gall cylchdroi cnydau wella strwythur y pridd a deunydd organig. Gyda hyn mewn golwg mae angen meddwl a pharatoi'n ofalus ynghylch cynllunio a chylchdroi cnydau. Mae angen i fanylion fod ar gael yn wythnosol, yn fisol ac yn flynyddol. Mae hefyd yn hanfodol gallu adolygu blynyddoedd blaenorol er mwyn cynllunio'r nesaf.

Gall defnyddio rhaglenni fel Excel ac offer cynllunio symleiddio hyn a darparu rhestr hawdd ei gwirio o dasgau i'w gwneud wrth iddynt ddod yn angenrheidiol, a'r peth gorau yw y gellir gwneud y dull hwn mor fanwl neu mor syml ag y dewiswch.

Ymunwch â Phil Handley, Gardd Gegin Mostyn a Graeme Wilson, Slade Farm wrth iddynt rannu eu dulliau ar gyfer llwyddiant ar gyfer tyfu ar raddfa fach.

Bydd y sesiwn hon yn cynnwys cyfle holi ac ateb