cyclamen-480477_1920.jpg

This event has passed

Un o’r prif rwystrau i bobl sydd eisiau gweithio gyda blodau’r wlad hon yw cyn lleied o flodau sydd ar gael rhwng misoedd Tachwedd a Mawrth. Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar ffyrdd i estyn tymor cynhyrchu blodau i’w torri, gan edrych yn gyntaf ar y math a ddewisir, ac wedyn ystyried technegau tyfu ac, yn olaf, marchnata. Bydd y dulliau a drafodir yn addas i dyfwyr llai ac i rai sydd am ehangu eu busnes.

Darperir yr hyfforddiant hwn gan Jane Hutcheon o Hay Lane Flowers yn benodol ar gyfer Rhwydwaith Blodau Cymru (Tyfu Cymru).

Os hoffech ymuno â’r rhwydwaith i gymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi hwn cysylltwch â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk