insect-3063278_1280.jpg

This event has passed

Yn y trydydd sesiwn yma bydd yr ystafell trafod planhigion Addurnol, dan arweiniad David Talbot, yn edrych ar gyfyngu effaith Plâu Ddechrau’r Haf. Gan dalu sylw arbennig i bryfed gwyn a phryfed taranau.

Bydd hyn yn cynnwys:

• cymhorthion monitro plâu / trapio torfol
• pa ysglyfaethwyr i'w cyflwyno ac ar ba amlder / cyfradd
• monitro effeithlonrwydd rheolaethau Biolegol yn effeithiol
• sut i benderfynu a oes angen i chi gynyddu cyfraddau ysglyfaethwyr
• Triniaethau ar gyfer mannau problemus sy’n gydnaws ag IPDM.
• bydd atal a rheoli pryfed blodiog hefyd yn cael ei gynnwys.

Bydd yr ystafell trafod planhigion Bwytadwy yn cael ei chyflwyno gan Chris Creed. Bydd Peter Seymour Entomolegydd ADAS a Guy Johnson Ymgynghorydd Garddwriaeth ADAS yn canolbwyntio ar Adnabod plâu a chyflwyno organebau llesol. Byddan nhw’n talu sylw arbennig i bryfed gleision mewn mefus a mafon, gwiddon, ac yn cyffwrdd â Capsidau, pryfed taranau, gwiddon blodau mefus, chwilod paill a gwiddon gwinwydd.

Bydd hyn yn cynnwys:

• Cymhorthion monitro plâu
• Cyflwyno organebau llesol – sut i adnabod y rhai da!
• Integreiddio â rheolaethau llwydni a phydredd llwyd