hard-hat-4274430_1280.jpg

This event has passed

Call of the Wild fydd yn arwain yr hyfforddiant 
Uchafswm o 8 person ym mhob sesiwn

Mae’r cwrs hwn yn sylfaen ar gyfer materion allweddol sy'n ymwneud ag Iechyd a Diogelwch. Mae'n cyflwyno'r modiwlau isod, gan roi'r hanfodion i'r dysgwyr cyn mynd ati i archwilio hyfforddiant mwy technegol a manwl.

Mae'n darparu'r wybodaeth graidd sydd ei hangen ar eich gweithwyr i gadw'n ddiogel ac yn ymgorffori dealltwriaeth a thechnegau da i gadw eraill yn ddiogel hefyd.

Strwythur y cwrs

Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

Cyfarpar Diogelu Personol

Damweiniau ac afiechyd

Iechyd, diogelwch a lles yn y gweithle

Llithro, baglu a chwympo

Cerbydau yn y Gwaith

Cyfraith Iechyd a Diogelwch

Diogelwch Tân

Asesu Risg

Cymorth Cyntaf

Sylweddau Peryglus

Cyfarpar Gwaith

Trydan

Iechyd Galwedigaethol

Sŵn a Dirgryndod

Ergonomeg a chynllunio gweithfannau

Codi a Chario

Gweithio ar Uchder

Sut mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno

Ar-lein drwy Zoom, mae'r cwrs hwn yn seiliedig ar theori yn bennaf, ond mae'n cynnwys llawer o ymarferion a gemau. Rydym yn defnyddio trafodaethau ac astudiaethau achos diweddar i ddod â'r dysgu'n fyw.

Hyd y cwrs hwn yw 3 Awr

Uchafswm o 8 person ym mhob sesiwn