welsh flag.PNG

This event has passed

Bwriad y Rhaglen Arallgyfeirio i Arddwriaeth yw cynnig cymorth i ffermwyr, tirfeddianwyr, tyfwyr ac eraill yng Nghymru sy'n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu planhigion a llysiau. Mae hefyd yn gyfle i dyfwyr presennol sy'n ystyried model busnes gwahanol ddysgu mwy am opsiynau amgen neu archwilio syniadau newydd ar gyfer eu busnes presennol.

Mae Cywain yn rhaglen fusnes sydd wedi ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd neu sydd eisoes yn bodoli yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae Cywain (sy'n golygu casglu neu gynaeafu), yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd a’r potensial i dyfu.

Yn y sesiwn hon, bydd Nerys Davies a Jayne Jones yn egluro sut y gall Cywain helpu eich busnes i fod yn fwy cystadleuol, cynaliadwy ac arloesol drwy ddarparu cyngor ar strategaethau busnes a marchnata, brandio, hunaniaeth a chymorth cyfryngau cymdeithasol a rheoli'r gadwyn gyflenwi a chynlluniau busnes. Byddant yn trafod sut y gall Cywain helpu eich cynnyrch i gyrraedd marchnadoedd newydd a'r cyfleoedd i gryfhau cysylltiadau rhwng eich busnes a'r gadwyn gyflenwi. Gallwch ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael gan Cywain yma.

Byddwn hefyd yn clywed gan Debbie Handley o Mostyn Kitchen Garden, sydd wedi llwyddo i ddatblygu ei gardd farchnad a'i busnes garddwriaeth gyda chymorth a chyfleoedd gan Cywain.